Talu'r pris am fyw mewn ardal heb gyflenwad nwy

  • Cyhoeddwyd
Tanc olew
Disgrifiad o’r llun,

Does dim cap ar lefel cost cyflenwadau olew i gwsmeriaid

Fe fydd miloedd o dai ar draws Cymru heb amddiffyniad uchafswm ar brisiau ynni achos eu bod nhw'n ddibynnol ar olew.

Yng Ngheredigion mae 36% o dai yn cael eu twymo gydag olew oherwydd nad yw'r tai wedi eu cysylltu i'r cyflenwad nwy.

Mae teuluoedd yn wynebu'r codiad mwyaf ym mhrisiau ynni erioed, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Fe gynyddodd prisiau olew 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n costio tua £1,000 i lenwi'r tanc olew yng ngardd Sara Bate yn Llandysul

Mae'r gwres canolog yn nhŷ Sara Bate yn defnyddio olew. Cafodd ei thŷ ar stad o dai yn Llandysul ei adeiladu yn ystod cyfnod pan roedd prisiau olew yn isel.

Mae hynny wedi newid erbyn hyn.

Fel un sy'n dibynnu ar daliadau lles, dyw Sara ddim yn gallu fforddio talu i lenwi ei thanc olew. Mae hi'n archebu gwerth £15 yn hytrach ar y tro, sy'n ddigon i bara saith diwrnod, ac yn ei ddefnyddio'n bennaf ar wresogi ystafell ei merch 13 oed.

Mae gwneud hynny'n fwy costus iddi yn y pen draw, ond dyna'r unig opsiwn sydd ar gael iddi.

"Rwy'n jyglo'r biliau," dywedodd. "Gallwn i gael gwared ar fy nghar ond rwy'n chwilio am waith ac yn yr ardal hon mae angen car oherwydd does dim gwasanaeth bws mwyach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Yvonne Edwards yn gyfrifol am syndicet sy'n helpu aelodau dalu llai am eu cyflenwadau olew

Mae nifer o dai yng Nghymru methu â chysylltu gyda'r prif gyflenwad nwy, ond Ceredigion sydd â'r ganran uchaf, gyda Phowys yn ail.

Yn Llanddewi Brefi, mae Yvonne Edwards yn berchen ar dafarn The New Inn. Mae hi hefyd yn gyfrifol am syndicet olew lleol.

Mae tua 90 o bobl yn rhan ohono ac yn gwneud taliad bob mis er mwyn ceisio cael y pris gorau a gwneud prynu'r olew yn rhatach.

"Y tro diwethaf i ni gael olew, fe wnaeth 40 o dai fanteisio ar bris oedd bach yn rhatach, achos tro diwethaf i fi ffonio lan ges i bris weddol dda," meddai Ms Edwards.

"Ond wedyn fe wnaeth person arall ffonio i gael olew jyst iddi hi ei hun ac roedd e tua pump ceiniog yn ddrutach."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y gall cost ynni godi hyd at 50% ym mis Ebrill wedi i Ofgem adolygu'r cap ddechrau Chwefror

Y rheoleiddiwr ynni Ofgem sy'n gyfrifol am osod y pris uchaf y gall cwmnïau trydan a nwy ofyn i bobl dalu.

Mae lefel y cap ar brisiau ynni'n cael ei adnewyddu bob chwe mis. Flwyddyn diwethaf roedd y cap yn£1,138, ac mae disgwyl iddo gynyddu hyd at bron £2,000 mewn ychydig wythnosau.

Bydd Ofgem yn cynnal eu hadolygiad ym mis Chwefror gan gadarnhau'r cap newydd ar filiau nwy a thrydan a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill.

Does dim cap ar lefel biliau olew.

Y llynedd, ar wahân i Ynysoedd Sili, Ceredigion welodd y prisiau ynni uchaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Oes angen newid trethi?

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn darogan y bydd Ceredigion a Gwynedd yn gweld y cynnydd mwyaf yn Ebrill 2022.

Ym marn arweinydd y blaid yng Nghymru, dylai'r llywodraeth gael gwared ar y dreth o 5% ar filiau ynni er mwyn helpu teuluoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Dodds o'r Dem Rhyddfrydol a'r Ceidwadwr Fay Jones yn anghytuno ynghylch sut mae datrys yr argyfwng biliau ynni

"Byddai tynnu VAT yn golygu £100 yn llai ar filiau yn syth," meddai Jane Dodds, sy'n cynrychioli teuluoedd mewn ardaloedd gwledig fel un o ASau rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

"Yma yng Nghymru rydyn ni hefyd eisiau gweld mwy o ymrwymiad i sicrhau bod disgownt tai cynnes yn cael ei ddyblu, yn enwedig ar gyfer pobl fregus.

"Ac o ran Llywodraeth Prydain, rydyn ni eisiau gweld beth rydyn ni'n ei alw'n treth Robin Hood - hynny yw, treth gwerthiant ar gyfer y cwmnïau ynni mawr."

Ond mae Aelod Seneddol Aberhonddu a Maesyfed, Fay Jones, yn anghytuno.

Mae'n dweud na fyddai treth ychwanegol yn ateb y broblem, a bod angen i'r llywodraeth a'r diwydiant ynni weithio gyda'i gilydd.

"Bydd hynny ddim yn helpu'r bobl sydd wir yn wynebu tlodi ynni," meddai. "Byddai treth ond yn arbed £60 y flwyddyn a dyw hynny ddim yn ddigon i wneud gwahaniaeth i'r bobl sy'n wynebu sefyllfa anodd iawn."

Pynciau cysylltiedig