'Rhoi'r gwres ymlaen am awr pan mae'r wyrion yn dod'
- Cyhoeddwyd
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif bod traean o deuluoedd Cymru yn cwtogi ar eu defnydd o ynni tra bod eraill yn bwyta llai o fwyd yn sgil costau byw uwch.
Dywed ymgyrchwyr eu bod yn poeni y bydd safonau byw ac iechyd nifer yn gostwng.
Mae'r elusen yn credu y bydd effaith Covid yn achosi i 40,000 o aelwydydd wynebu tlodi.
"Roedd yna chwarter o deuluoedd Cymru yn byw mewn tlodi cyn y pandemig," medd Dr Steffan Evans, pennaeth polisi Sefydliad Bevan.
Dywed Judith Criddle, sy'n fam-gu, ei bod yn anodd iddi gael dau ben llinyn ynghyd ac mae hi ond yn defnyddio gwres pan mae ei hwyrion yn ymweld er bod hi'n dywydd oer.
Ond hyd yn oed yr adeg honno mae Judith ond yn gallu fforddio rhoi'r gwres ymlaen am ryw awr ac mae'n gorchuddio eu hwyrion â blanced ac yn rhoi poteli dŵr twym iddyn nhw.
"Iddyn nhw noson ffilm yw eistedd ar y soffa mewn blancedi ond i fi mae'n ffordd o arbed pres," medd Ms Criddle sy'n 51 oed.
Mae costau byw yn cynyddu'n gynt ar hyn o bryd nag ar unrhyw adeg yn ystod y ddegawd ddiwethaf ac mae un melin drafod yn rhybuddio y gallai teuluoedd fod yn gorfod talu hyd at £1,200 y flwyddyn yn fwy tuag at gostau byw wrth i filiau ynni a bwyd gynyddu.
Mae Judith Criddle yn derbyn credyd cynhwysol a dywed ei bod yn ceisio cwtogi ar ynni cymaint ag y gall ond os yw prisiau yn cynyddu ymhellach dywed na fydd hi'n gallu "fforddio byw".
Dywed nad yw hi'n gallu fforddio torri ei gwallt na mynd am ddiod allan gyda'i ffrindiau yng Nghaerdydd.
Mae un o bob pedwar teulu yng Nghymru yn wynebu tlodi, medd Sefydliad Bevan.
Dywed Ms Criddle ei bod yn poeni am y mis nesaf heb sôn am y flwyddyn nesaf.
Mae Judith yn gwneud ei siopa mewn canolfan fwyd gymunedol sy'n cael ei rhedeg gan elusen leol yng ardal Caerau o'r brifddinas.
Mae'r Pantri Lleol - sy'n helpu teuluoedd yn ardaloedd Trelái a Chaerau yn ddibynnol ar roddion o fwyd a chynlluniau bwyd er mwyn cadw'r prisiau'n isel.
Mae'r siopa wythnosol yn costio £5 ond mae'r 132 aelod sy'n rhan o'r cynllun yn cael gwerth pedair gwaith gymaint â hynny.
Dywed Alex Withey, sy'n gwirfoddoli yn y Pantri, ei fod ef fel Judith yn cael credyd cynhwysol.
"Yn 2022 bydd yn rhaid i bobl ddewis rhwng rhoi'r gwres ymlaen neu gael bwyd," meddai.
"Bob mis dwi'n gorfod meddwl faint i wario ar fwyd a faint ar danwydd. Wrth i brisiau godi bydd yn rhaid i fi wario llai ar fwyd.
"Dyw hynna ddim yn iawn - pobl dlawd sy'n cael eu taro waethaf bob tro."
Mae arbenigwyr yn darogan y gall biliau ynni teuluoedd a oedd yn talu £850 y llynedd godi i dros £1,700.
Mae elusen National Energy Action yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi cefnogaeth ariannol "ystyrlon" i gwsmeriaid bregus.
"Fe allai hynny olygu cynyddu y disgownt cartref cynnes, ymestyn taliadau tanwydd y gaeaf i bobl na sy'n gymwys amdanynt ar hyn o bryd," medd Ben Saltmarsh o'r elusen.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ymwybodol bod cartrefi yng Nghymru yn wynebu gwasgfa ariannol yn sgil costau byw uwch, a phenderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared o'r £20 ychwanegol a roddwyd am gyfnod fel cyfraniad ychwanegol i'r Credyd Cynhwysol.
Dywed y Trysorlys ei fod wedi darparu mwy na £4.2bn o gefnogaeth i deuluoedd y flwyddyn - a hynny ar ben cefnogaeth arall at gynnal safonau byw.
"Rydym yn ymwybodol bod pobl yn wynebu pwysau gyda chostau byw - dyna pam ein bod yn gwario biliynau o bunnau i gynnig help," medd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
"Mae'n cymorth yn cynnwys cynyddu isafswm cyflog a chefnogi cartrefi gyda'u biliau - yn ogystal rydym wedi rhewi pris treth alcohol a thanwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021