Adran Dau: Leyton Orient 0-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Roedd peniad hwyr Cameron Norman yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i Gasnewydd yn Adran Dau nos Fawrth.
Cic gornel gyda phum munud yn weddill oedd y gwahaniaeth wrth i Norman sgorio'i gôl cyntaf ers Tachwedd 2019.
Er yn gêm ddigon di-fflach, roedd yn ddigon i godi'r Alltudion i'r trydydd safle.
Y nod i dîm James Rowberry nawr fydd aros tua'r brig ac osgoi gorfod chwarae yn y gemau ailgyfle unwaith yn rhagor ar ddiwedd y tymor.