Gorfod disgwyl 15 wythnos am brawf gyrru lori HGV
- Cyhoeddwyd
Mae menyw ifanc sy'n dysgu sut i yrru lori yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn "ysbrydoledig" i ferched eraill.
Mae Emily George, sy'n 24 ac o Bontardawe, ar fin cychwyn ei gyrfa ond yn wynebu 15 wythnos o aros cyn gallu sefyll ei phrawf.
Dywedodd ei hyfforddwr fod prinder arholwyr yn gohirio cynlluniau i gynyddu niferoedd gyrwyr HGV.
Mewn ymateb dywed y DVSA, sy'n gyfrifol am y profion, y bydd mwy yn cael eu cynnig.
Eisoes mae Emily wedi dysgu gyrru bysiau a faniau, ac wedi bod yn hyfforddi i yrru HGVs yng nghanolfan Driver Training Wales yn Abertawe.
Dywedodd fod ceisio am drwydded i yrru lorïau yn rhan o'i hymdrech i chwalu ystrydebau.
"Roedd yn darged i mi geisio torri trwy'r rhwystr hwnnw, gan fy mod wedi cael fy rhwystro yn y gorffennol," meddai.
"Mae'n sefyllfa mor bositif i allu fod yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc eraill sy'n meddwl am wneud yr un peth a fi yn y dyfodol."
Mae ei hyfforddiant wedi cynnwys gyrru a symud loriau ar y safle hyfforddi yn Llansamlet, cyn iddi gorfod sefyll ei phrawf.
Ond fe all fod tua 15 wythnos cyn y bydd arholwr allanol ar gael, a dwedodd ei hyfforddwr ei fod yn achosi tagfa ymhlith gyrwyr dan hyfforddiant ac yn bygwth ei fusnes.
Cynnydd mewn galw
Dywedodd Paul Morgan, perchennog Driver Training Wales, fod y cynnydd mewn galw am hyfforddiant wedi ei arwain i recriwtio mwy o staff a phrynu mwy o gerbydau hyfforddi.
Ond roedd prinder arholwyr yn niweidiol: "Yr wythnos hon roedd gennym ni ddeg prawf wedi'u trefnu ar y safle hon ond mae nhw wedi gostwng i bedwar - maen nhw newydd ganslo'r profion, oherwydd bod ganddyn nhw brinder arholwyr."
Dywedodd Mr Morgan nad oedd yn deg i barhau i hyfforddi gyrwyr oedd wedyn yn wynebu misoedd o aros cyn sefyll prawf.
Roedd e'n canmol cynlluniau hyfforddi llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU oedd wedi talu i rai ymgeiswyr, gan gynnwys Emily, i basio eu profion.
Ond ychwanegodd: "Heb arholwr does dim modd ei chael hi ar y lôn. Mae hi'n barod i fynd, mae hi wedi gwneud popeth. Y cyfan y mae hi'n aros amdano yw un o'r profion ymarferol, ond ni allwn eu cael ar hyn o bryd."
Mae adroddiad gan bwyllgor economi'r Senedd wedi argymell mwy o fuddsoddi mewn prentisiaethau a gwelliannau i gyfleusterau ar gyfer gyrwyr ar ochr y ffordd, er mwyn cynyddu maint y gweithlu o yrwyr.
Cynhaliodd ymchwiliad yn dilyn problemau cadwyn gyflenwi y llynedd a arweiniodd at oedi wrth ddosbarthu, a rhai silffoedd gwag mewn siopau.
Dwedodd cadeirydd y pwyllgor, Paul Davies, fod gyrwyr loriau yn chwarae "rôl hanfodol" a bod gan lywodraeth Cymru rhai arfau i wella cyfleusterau ar gyfer y diwydiant.
"Mae ganddyn nhw bwerau o gwmpas hyfforddiant, a dyna pam rydyn ni wedi galw ar y llywodraeth i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu rhaglenni prentisiaeth gyrwyr HGV ac i gefnogi'r diwydiant i gynyddu nifer y darparwyr hyfforddiant sydd ar gael.
"Mae gan lywodraeth Cymru rai arfau pwysig yr ydym am iddynt defnyddio, a dyna pam ei bod yn bwysig bod llywodraeth Cymru yn derbyn ein hargymhellion ac yn gweithredu cyn gynted â phosibl."
Galwodd hefyd am archwiliad o gyfleusterau gorffwys o amgylch y wlad, sydd eisoes wedi digwydd yn Lloegr, i asesu safon y cyfleusterau.
Mwy o brofion
Mewn ymateb, dywedodd y DVSA, "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi cynlluniau'r llywodraeth i fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr lori drwy gynnig mwy o brofion gyrru HGV.
"Rydym wedi cynyddu profion gyrru HGV trwy ystod o fesurau, gan gynnwys cynnig goramser, a dyrannu a recriwtio arholwyr ychwanegol i'r profion hyn.
"Cafwyd ymgyrch i recriwtio arholwyr gyrru galwedigaethol ychwanegol yng Nghymru a Lloegr ei lansio gan DVSA ym mis Awst.
"Roedd 18 o arholwyr newydd wedi'u hyfforddi'n llawn erbyn y Nadolig gyda 12 arall yn mynychu neu wedi archebu lle ar gwrs hyfforddi."
Tra mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "croesawu'r argymhellion hyn ac yn gweld hyn fel cyfle i wyrdroi'r problemau" sydd wedi adeiladu yn y diwydiant.
Ychwanegodd bod cynllun ar waith i ddatblygu cynllun logisteg a chludiant i Gymru fel rhan o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Dywedodd hefyd ei bod yn "siomedig i glywed mai dim ond i Loegr y bydd y £32.5m o gyllid newydd i wella cyfleusterau parcio lorïau ar gael, ond byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y sector yn cael y cymorth sydd ei angen arno i barhau i ddarparu ar gyfer y DU gyfan".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd3 Medi 2021
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021