Adran Dau: Casnewydd 2-1 Barrow
- Cyhoeddwyd
![Dom Telford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/C747/production/_123051015_cdf_290122_ml_newport_v_barrow_016.jpg)
Fe wnaeth Dominic Telford sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd yn Adran Dau ddydd Sadwrn gyda dwy gôl o fewn deg munud i'w gilydd yn yr hanner gyntaf.
Sgoriodd Dominic Telford ddwywaith o fewn chwarter awr cynta'r gêm, gan gyrraedd ei ugeinfed gôl y tymor hwn.
Er i Mickey Demetriou fygwth mantais Casnewydd gyda gôl i'w rwyd ei hun yn yr ail hanner, methodd Barrow â sgorio cyn y chwiban olaf.
Mae Casnewydd yn parhau yn drydydd yn y gynghrair, tra bod Barrow'n parhau yn 21ain.