Car ar dân wedi achosi difrod sylweddol yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Gâr wedi mynegi ei sioc wedi i'w char fynd ar dân yn ddireswm tu allan i'w cartref ac achosi difrod sylweddol i'w thŷ.
Dywedodd Lauren Griffiths, 37 o bentref Yr Hendy ger Pontarddulais eu bod wedi cyrraedd adref yn y Land Rover am 19:20 ar 21 Ionawr, a bod y cerbyd "yn fflamau" erbyn 19:45.
Bu'r gwasanaeth tân yno am ddwy awr yn ei ddiffodd, ond mae wedi achosi difrod sylweddol i'w cartref nhw a thŷ arall hefyd.
"Gyda chyfeiriad y gwynt roedd hi'n anochel y byddai'n achosi difrod i'r tŷ, a thŷ cymydog," meddai.
"Roedd o'n ffyrnig. Digwyddodd y cyfan mor sydyn."
Mae Ms Griffiths yn dweud nad ydy cwmni Land Rover yn cymryd cyfrifoldeb am y tân am fod y warantî ar y cerbyd wedi dod i ben saith wythnos ynghynt.
Dywedodd ei bod eisiau i'r cwmni egluro pam fod y cerbyd wedi mynd ar dân ac achosi cymaint o ddifrod.
"Fe allai fy mab wedi cael ei ladd - fe alla i fod wedi cael fy lladd," meddai Ms Griffiths.
"Beth pe bydden ni wedi bod yn ein gwelyau? Dydw i ddim eisiau meddwl am y peth."
Dywedodd Land Rover mai "diogelwch cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth" a'u bod yn cydymdeimlo â Ms Griffiths.
"Rydyn ni mewn cyswllt cyson gyda Ms Griffiths ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w chefnogi hi a'i theulu," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn fodlon cefnogi ymchwiliad gan gwmni yswiriant Ms Griffiths, a bod angen i'r cwmni yswiriant ymchwilio i ddechrau er mwyn peidio â chael effaith negyddol ar ei pholisïau yswiriant car a chartref.
Mae cymdogion wedi lansio ymgyrch i godi arian i'r teulu, sydd bellach wedi codi dros £2,600.