Adran Dau: Northampton 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Cameron Norman yn ennill y bêl gan Jack SowerbyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cameron Norman yn ennill y bêl gan chwaraewr Northampton, Jack Sowerby.

Roedd hi'n noson siomedig i Gasnewydd yn Stadiwm Sixfields gyda sawl cerdyn melyn a methiant i gyrraedd cefn y rhwyd.

Roedd Sam Hoskins yn agos i agor y sgorio i Northampton wedi 35 munud, ond roedd Scot Bennett yno i'w rwystro.

Ond gwelwyd mwy o gardiau melyn na goliau, gyda'r ddau dîm yn ei chael hi'n anodd i greu cyfleon.

Gyda hynny roedd peniad Fraser Horsfall o gic cornel, gyda ond 10 munud i fynd, yn ddigon i sicrhau'r triphwynt.

Gyda Northampton yn codi i drydydd yn y tabl, mae Casnewydd yn parhau yn y safleoedd ail-gyfle ond yn syrthio i'r seithfed safle.