Adran Dau: Casnewydd 3-3 Oldham Athletic

  • Cyhoeddwyd
Newport players celebrate Ryan Haynes' opening goalFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Gôl Mickey Demetriou lwyddodd i sicrhau pwynt i Gasnewydd brynhawn Sadwrn yn erbyn Oldham Athletic.

Ryan Haynes roddodd Casnewydd ar y blaen i ddechrau, ond taro'n ôl wnaeth Davis Keillor-Dunns.

Dom Telford yn hawlio brig y sgorfwrdd cyn hanner amser ond peniad Mike Fondop yn dod â'r sgôr yn gyfartal eto.

Fondop a'i ail gôl yn rhoi Casnewydd dan bwysau cyn y chwiban olaf ond Demetriou yn llwyddo i gyrraedd cefn y rhwyd mewn pryd.

Mae Casnewydd yn parhau yn seithfed safle Adran Dau.