Adran Dau: Casnewydd 1-0 Bristol Rovers

  • Cyhoeddwyd
James WaiteFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd James Waite i sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd wrth iddyn nhw herio Bristol Rovers ddydd Sadwrn - a hynny gyda'i gôl gyntaf i'r tîm.

Sgoriodd Waite unig gôl y gêm wedi 33 munud o chwarae, gyda Rob Street a Finn Azaz yn taro'r postyn i Gasnewydd.

Drwy atal Aaron Collins rhag ennill gôl allweddol, fe wnaeth Nick Townsend amddiffyn y fantais dros Fryste.

Wrth i Rovers ddisgyn i'r 10fed safle yn y Gynghrair, mae Casnewydd un pwynt o'r trydydd safle.