Adran Dau: Casnewydd 2-3 Hartlepool

  • Cyhoeddwyd
Casnewydd v HartlepoolFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd hi'n noson siomedig i Gasnewydd wrth iddyn nhw golli i Hartlepool o 2-3 yn Adran Dau.

Casnewydd wnaeth gipio gôl gyntaf y gêm wedi 16 munud - ond roedd yn rhaid diolch i Omar Bogle o Hartlepool am hynny, wrth iddo sgorio gôl i rwyd ei hun.

Llwyddodd Jamie Sterry i unioni'r sgôr i Hartlepool wedi 35 munud, ac yn sgil gôl ychwanegol gan Luke Molyneux yr ymwelwyr oedd ar y blaen o 2-1 erbyn hanner amser.

Er i Robert Street adfywio gobaith Casnewydd gyda gôl wedi 71 munud, ddwy funud yn ddiweddarach llwyddodd Neill Byrne i adennill y fantais i Hartlepool.