Mordeithiau'r Urdd i Ewrop: Maes B y 1930au?
- Cyhoeddwyd
Roedd gwyliau rhai o Gymry'r 1930au yn llawer mwy anturus na thrip ysgol Sul i'r Rhyl neu Borthcawl.
Rhwng 1933 a 1939 trefnodd Syr Ifan ab Owen Edwards a'r Urdd fordeithiau wedi'u teilwra'n benodol i Gymry Cymraeg.
Yn dilyn edefyn ar Twitter am y fordaith i ffiordiau Norwy yn 1933 gan yr Athro Richard Wyn Jones, mae wedi dod i'r amlwg i'r mordeithiau hyn fod yn "debyg i Maes B heddiw, ble mae'r Cymry Cymraeg yn gallu cwrdd a ffeindio partner."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dyna ddisgrifiad yr hanesydd Dr Marion Loeffler ohonynt ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ac mae hanes Hywel Wyn Jones am stori garu ei rieni ar un daith yn dyst i'w llwyddiant.
Y Fordaith Bleser Gymraeg i Ffiordiau Norwy
Hwyliodd 458 o Gymry Cymraeg o Lerpwl i ffiordiau Norwy ym mis Awst 1933 ar long yr Orduna. Capten Ellis Roberts o Borthmadog oedd wrth y llyw ac ar ei thaith roedd yn ymweld â Bergen, Olden, Löen, Merok, Geirangerfjord a Trondheim.
Syniad Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd oedd hyn, ac roedd yn falch o lwyddiant y daith.
Eglura Dr Marion Loeffler: "Wedi'r fordaith gyntaf i Norwy roedd Ifan ei hun yn sgwennu ei fod wedi bod yn blest ofnadwy oherwydd fod cynifer o Gymry wedi ymuno, a dyna pam cafwyd gymaint o hwyl a sbri.
"Dwi'n cael yr argraff o ddarllen y llythyrau a'r archifau fod y ddwy fordaith gyntaf wedi gwasanaethu'n debyg i Maes B heddiw - ble mae'r Cymry Cymraeg yn gallu cwrdd a ffeindio partner sy'n siarad Cymraeg.
"Mi oedd Syr Ifan hefyd wedi sylwi ei fod wedi cael gwahoddiad i sawl priodas y flwyddyn ar ôl y fordaith gyntaf, felly mae'n rhaid bod rhywbeth yn y dŵr fan'na."
Meddyg y llong oedd Emyr Wyn Jones sef taid Yr Athro Richard Wyn Jones. Roedd Emyr Wyn Jones neu Emyr Feddyg yn dod o'r Waunfawr ac aeth yn feddyg i Lerpwl yn 1935 gan wneud ei farc mewn cardioleg. Ar y fordaith yma wnaeth gyfarfod ei ddarpar wraig, Enid, a ddaeth yn ladmerydd cymdeithasol amlwg.
'Byddai dwy delyn ar fwrdd y llong, nid un!'
Yn ôl Dr Marion Loeffler bwriad Syr Ifan ab Owen Edwards oedd trefnu hamdden modern i'r Cymry Cymraeg oedd hefyd yn cysylltu Cymru gyda'r byd. Gyda'r 1930au yn gyfnod o ddirwasgiad, mae'n debyg mai at y dosbarth canol Cymraeg fyddai'r mordeithiau hyn yn apelio.
Eglura Marion: "Cofiwch, fel mewn mordeithiau heddiw, roedd 'na sawl radd o gabin - roedd rhai ohonyn nhw yn llai moethus felly mi oedd yna raniadau o ran dosbarth o bosib ar y llong. Ond byddech chi wedi gorfod bod â chryn dipyn o arian sbâr i 'neud wbath fel'na yn yr 1930au.
"Yr 1920au a'r 1930au yw'r cyfnod pan mae pobl yn dechrau yn mynd ar eu gwyliau a phethau fel lliw haul yn ne Ffrainc yn mynd yn boblogaidd. Dwi'n meddwl oedd Ifan Ab isio cynnig rwbath i'r oedolion oedd wedi mynd drwy'r Urdd, oedd wedi gadael adrannau a oedd nawr yn edrych am rywbeth Cymreigaidd ac i fynd ar eu gwyliau.
"Yn wahanol i'r mordeithiau oedd ar gael yn gyffredinol - roedd mordeithiau'r Urdd yn cynnig gwasanaethau crefyddol yn Gymraeg, roedd eisteddfodau a chymanfaoedd canu yn cael eu cynnal. Roedd un hysbyseb yn dweud y byddai dwy delyn ar fwrdd y llong, nid un!
"Hysbyseb arall oedd na fyddai bar gyda gwirodydd cadarn ar y llong felly doedd dim alcohol. Ar y pryd roedd rhai o weithgareddau'r Urdd yn cael eu drwgdybio gan fawrion y capeli felly mae'n hollol ddealladwy fod Syr Ifan yn teimlo bod angen hysbysebu hyn."
Stori garu Nan Williams a Thomas Jones
Un wnaeth ymateb i'r edefyn Twitter am y fordaith i Norwy oedd Hywel Wyn Jones. Fe wnaeth ei rieni, Nan Williams o Lanrhaeadr-ym-Mochnant a Thomas Gwyn Jones o'r Betws, Rhydaman gyfarfod ar un o fordeithiau'r Urdd.
Meddai Hywel: "Rwy'n cofio i fy mam sôn iddi fod ar y fordaith gyntaf i Norwy, ac mae rhestr y teithwyr yn nhrydariad Richard Wyn Jones yn cadarnhau hynny. Roeddwn wedi deall hefyd fod fy nhad ar y daith, ond alla i ddim bod yn sicr - nid yw ei enw llawn, Thomas Gwyn Jones, ar y rhestr, er y galle fe fod yn un o'r ddau Thomas Jones sy arni.
"Beth wn i yn sicr yw bod y ddau wedi bod ar fordaith yr Urdd yn 1935 neu 1936 a'r un ola' yn Awst 1939. Ar ôl yr ail fordaith aethon nhw arni y dechreuodd carwriaeth fy rhieni, dyna rwy'n casglu o'r llythyron caru sydd gen i oddi wrth fy mam at fy nhad.
"Mae sôn yn y llythron am y crŵs i ardal llyn Geneva. Mewn un llythyr mae sôn bod pawb wedi edrych mlaen at grŵs y flwyddyn wedyn, 1937, a bod yr Urdd wedi cael cyfarfod i benderfynu beth i'w wneud achos roedd rhai o'r aelodau eisiau mynd i'r Almaen.
"A mae'r penderfyniad bo' nhw ddim yn mynd i'r Almaen i gefnogi 'dyn fel Hitler'.
"Falle bod pobl ddim yn meddwl yn 1937 bod rhyfel yn dod ond oedd digon o deimladau yn erbyn Hitler i bobl ddweud, 'dydyn ni ddim yn mynd i'r Almaen.'
"Dwi'n cofio Mam yn sôn am feddyg y llong, Emyr Wyn Jones, oedd e'n ddyn itha amlwg a'i bod hi wedi cwrdd ag e. Gwilym Arthur Edwards - pregethwr a chefnder Syr Ifan Ab Owen Edwards oedd un o'r rhai oedd yn arwain y grwpiau, roedd hi'n sôn am hynny hefyd."
Priododd Nan Williams a Thomas Gwyn Jones yn 1941 a chreu cartref yng Nghaerfyrddin a chof plentyn sydd gan Hywel o glywed ei fam yn sgwrsio am y mordeithiau.
Beth sy'n ei ryfeddu erbyn heddiw ydy parchusrwydd y stôr o lythyrau caru sydd ganddo. Meddai: "Sdim emosiynau mawr yn y llythyrau hyn. Pobl barchus y capel oedd fy rhieni a be' sy'n ddiddorol yw o'r amser nathon nhw gwrdd ar y fordaith, 'chi' oedden nhw'n galw ei gilydd erioed. Nath Mam a Nhad 'rioed alw 'ti' ar ei gilydd.
Rhagor o fordeithiau'r Urdd...
Trip i Lydaw a Phortiwgal hyd at Ogledd Affrica yn 1934.
Gwibdaith i fedd Hedd Wyn yn Ypres a gosod torch o fwswgl a grug o Drawsfynydd ar ei fedd ar y ffordd i Norwy yn 1935.
Casglodd y Cymry yn Llundain ar 12 Awst 1939 (rhai yn syth o Eisteddfod Dinbych) i fynd ar drên preifat i gychwyn yn Fenis. Roedd y fordaith fod i gychwyn yno a mynd i fyny arfordir Dalmatia, Dubrovnik ac yno Montenegro. Bu'n rhaid dychwelyd adref yn gynnar drwy Paris gan fod yr Ail Ryfel Byd ar y gorwel a'r gwledydd yn ymarfogi eisoes.