Y Cymro cyntaf i gael ci tywys
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhaid bod Tomos ap Rhys wedi cael profiadau erchyll ond, fel cymaint o bobl eraill o'r cyfnod, doedd e byth yn siarad amdanyn nhw. Dim ond 18 oed oedd e pan gafodd ei anfon i ymladd yn Ffrainc ym Medi 1915. Cafodd ei ryddhau ddiwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 20 oed yn 1917, ar ôl cael ei ddallu gan nwy."
Tomos ap Rhys oedd y Cymro cyntaf i gael ci tywys.
Fel rhan o arbrawf ym Mhrydain yn y 1930au, roedd yn un o bedwar o ddynion dall i gael cynnig ci tywys. Cafodd German Shepherd o'r enw Folly, wnaeth newid ei fywyd.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cŵn Tywys, ei wyres Helen Trevor Davies o'r Fenni sy'n sôn amdano a'i fywyd: "Roedd fy nhaid yn barod am her pan gafodd gi tywys yn 1931 - un o'r pedwar dyn cyntaf ym Mhrydain i gael ci tywys a'r Cymro cyntaf.
"Gwnaeth y ci tywys drawsnewid ei fywyd, gan roi annibyniaeth iddo."
Bywyd diddorol
Ganwyd Tomos ap Rhys yn 1897 ym Mangor. Roedd ei dad, Thomas Rhys, yn darlithio yng Ngholeg Bangor a'i daid oedd y cenedlaetholwr Michael D Jones, un o'r rhai wnaeth sefydlu Gwladfa Patagonia.
Ymunodd Tomos ap Rhys gyda'r fyddin yn 1915 ond yn 1917 cafodd ei ddallu gan nwy am fod ei fwgwd nwy yn ddiffygiol.
Dychwelodd i Brydain a chyfarfod Evelyn Kenrick, nyrs o Surrey. Priododd y ddau yn 1919 ac yna aethant i fyw yng nghymuned clos y Garth ym Mangor a chael tri o blant - Elizabeth, Ceridwen a Tomos.
Aeth Tomos ap Rhys i Brifysgol Bangor gan gael gradd dosbarth cyntaf gyda help Evelyn, oedd yn darllen iddo bob dydd.
Newid byd
Gan fod Tomos ap Rhys wedi byw ym Mangor cyn ymuno â'r fyddin a chael ei ddallu, roedd yn adnabod y ddinas ac yn gallu mynd o gwmpas i raddau.
Ond pan glywodd fod cŵn tywys yn Lerpwl yn cael eu hyfforddi ar gyfer pobl ddall, gwnaeth gais am un ar unwaith.
A dyma pryd ddaeth German Shepherd o'r enw Folly i'w fywyd. Yn ôl y teulu, roedd hi'n gi tywys rhagorol, yn graff ac yn dawel ei naws. Roedd hi'n rhan o'r teulu o'r cychwyn, ond yn gwybod bod ei lle wrth ymyl ei meistr bob amser.
Yn ôl Helen: "Gwnaeth Folly drawsnewid bywyd Tomos ac roedd ganddo berthynas agos â'r ci. Roedd y ci tywys yn rhan annatod o'r teulu. Dwi'n cofio pawb yn siarad am y ci yn annwyl iawn.
"Aeth ymlaen i gael nifer o gŵn tywys gan gynnwys Pero, Danny a Sheba, pob un o fridiau gwahanol."
Dywedodd Tomos ap Rhys wrth ei fab mai'r pethau mwyaf defnyddiol yn ei fywyd oedd ei gi tywys a'i radio. Gyda chymorth Folly, gwnaeth Tomos wella ei ffitrwydd corfforol nes ei fod yn gallu rhwyfo a cherdded yn gystadleuol, gweithgareddau oedd e'n ei fwynhau'n fawr.
Meddai Helen: "Ac fel canlyniad i help y cŵn aeth e mlaen i weithio fel ffisiotherapydd/masseur yn y Gwasanaeth Iechyd am tua 30 mlynedd.
"Roedd yn amlwg yn dda yn ei waith ac roedd e'n teimlo ei fod yn cyfrannu at gymdeithas, rhywbeth roedd ei ddallineb wedi'i atal rhag gwneud - neu felly oedd e'n meddwl.
"Yn y gwaith roedd pawb yn ei alw'n Mr Ap.
"Pan o'n i'n 6 oed a gyda fy chwaer oedd yn 4 oed, arhoson ni gyda fy nain a thaid.
"Dwi'n cofio fy nhaid yn canu hwiangerdd yn Gymraeg i helpu fi i gysgu.
"Roedd fy nhaid yn ddwyieithog a Chymraeg oedd ei famiaith. Roedd yn ddyn urddasol a dibynadwy iawn.
"Roedd yn ddyn oedd wedi derbyn ei ddallineb ac yn barod i wynebu heriau yn ei fywyd. Roedd ganddo feddwl gweithgar ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes. Roedd hefyd yn actif iawn."
Aeth Tomos ap Rhys ymlaen i fod yn ymgeisydd Llafur yn etholiad cyffredinol 1929 yng Nghaernarfon, yn erbyn yr ymgeisydd arall ar y pryd, y gwleidydd a'r cyn-Brif Weinidog Lloyd George.
Doedd e ddim yn llwyddiannus ond roedd yn benderfynol o fod yn weithgar, yn ôl Helen: "Roedd fy nhaid yn ystyried ei hun yn sosialydd rhyngwladol.
"Roedd yn chwerw ac yn isel ei ysbryd ar ôl dioddef trwy gael ei ddallu gan y mwgwd nwy diffygiol, a ddarparwyd gan ei bobl ei hun; yna gyda'r diweithdra ar ôl y rhyfel, y dirwasgiad, diweithdra torfol - mae'n rhaid ei fod wedi cwestiynu beth oedd pwrpas y rhyfel."