Adran Dau: Casnewydd 1-2 Crawley Town

  • Cyhoeddwyd
Pêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna siom i Gasnewydd wrth iddyn nhw golli o ddwy gôl i un yn erbyn Crawley Town yn Rodney Parade ddydd Gwener.

Fe ildiodd yr Alltudion y ddwy gôl yn chwarter cyntaf y gêm ac mae'r canlyniad yn golygu eu bod wedi llithro o safleoedd y gemau ailgyfle.

Gydag ergyd droed chwith o ochr chwith y cwrt chwech i ganol y rhwyd, fe roddodd Ashley Nadesan yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae.

Roedd Nadesan â rhan yn ail gôl y gêm wedi i Crawley gael cic gornel. Fe basiod y bêl i Ludwig Francillett a'i tharodd gyda'i droed dde i ddyblu'r fantais wedi 21 o funudau.

Roedd yna gyfleoedd gan Dominic Telford a Mickey Demetriou a gafodd eu harbed gan y golwr cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Roedd yna obaith o droi'r fantol pan sgoriodd yr Alltudion wedi bron awr o chwarae - symudiad a ddechreuodd gyda gwrthymosod chwim a phas gan Telford at James Waite a darodd y bêl yn isel o'r chwith gyda'i droed chwith i gornel dde'r rhwyd.

Ond ni fu'n bosib unioni'r sgôr, heb sôn am gipio'r fuddugoliaeth, ac mae Casnewydd o'r herwydd wedi syrthio o'r saithfed i'r wythfed safle.