Adran Dau: Sutton United 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Scot Bennett yn protestio penderfyniad y dyfarnwr i roi cic o'r smotyn i Sutton United

Mae Casnewydd wedi cael ergyd i'w gobeithion o orffen yn safleoedd y gemau ail gyfle ar ôl cael eu trechu gan Sutton United ar ddydd Llun y Pasg.

Daeth unig gôl y gêm ar drothwy hanner amser, wrth i Rob Milsom sgorio o'r smotyn yn dilyn trosedd gan Scot Bennett ar David Ajiboye yn y cwrt cosbi.

James Waite gafodd y cyfle gorau i'r ymwelwyr, ond fe gafodd ei ergyd ei harbed yn dda gan y golwr Dean Bouzanis.

Mae'r canlyniad yn golygu fod yr Alltudion yn disgyn o'r wythfed i'r 10fed safle yn Adran Dau - dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.