Adran Dau: Casnewydd 1-2 Colchester United

  • Cyhoeddwyd
Noah Chilvers yn rhwydo pasio Joe DayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Noah Chilvers yn rhwydo pasio Joe Day wrth sicrhau buddugoliaeth Colchester nos Wener.

Daeth ergyd arall i obeithion Casnewydd o gyrraedd y gemau ail gyfle gyda cholled gartref nos Wener.

Roedd hyn er i'r Alltudion fynd ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Dom Telford rwydo pasio Shamal George.

Ond daeth Colchester yn ôl wedi'r egwyl gyda John Akinde yn sgorio'i gôl gyntaf i'r clwb wedi 68 munud.

Roedd gwaeth i ddod i dîm James Rowberry gyda 12 munud yn weddill.

Akinde oedd y crëwr y tro hwn wrth ddarganfod Noah Chilvers, gan alluogi'r chwaraewyr ganol cae i rwydo pasio Joe Day.

Gan olygu trydydd colled yn olynol, mae'n gadael yr Alltudion yn ddegfed yn y tabl.