Adran Dau: Port Vale 1-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Finn AzazFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Finn Azaz yn dathlu'i gôl fuddugol ar Vale Park brynhawn Llun

Daeth rhediad siomedig Casnewydd i ben gyda buddugoliaeth oddi cartref brynhawn Llun.

Er bod gobaith Yr Alltudion am ddyrchafiad bellach drosodd, hon oedd buddugoliaeth gyntaf gŵyr James Rowberry ers 9 Ebrill.

Ryan Haynes ddechreuodd y sgorio i Gasnewydd gydag ond tri munud ar y cloc, cyn i Ben Garrity ddod a'r tîm cartref yn gyfartal yn fuan wedi'r egwyl.

Ond gôl Finn Azaz, gyda 18 munud yn weddill, sicrhaodd y tri phwynt.

Mae'r golled yn golygu fod Port Vale yn dibynnu ar ganlyniadau eraill os am gyrraedd y gemau ail gyfle.