Sut fwytai a chaffis sy'n addas i bobl awtistig?

  • Cyhoeddwyd
Dafydd Jones yn Y FelinheliFfynhonnell y llun, Casi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jones ar lannau'r Fenai ym mhentref Y Felinheli

Yn ddiweddar mae Uwch Siryf yn Ynys Môn, Davina Carey-Evans, sydd â mab awtistig wedi dechrau ymgyrch ar yr ynys i helpu busnesau wella eu mynediad i bobl awtistig fel eu bod yn gallu mwynhau'r un profiad a phawb arall.

Bydd hi'n ceisio codi ymwybyddiaeth a chofrestru cardiau mynediad ymhlith busnesau o fewn y diwydiant lletygarwch a hamdden yng ngogledd Cymru.

Byddai'r cerdyn yn rhoi gwybodaeth gyflym am y gefnogaeth fyddai ei angen ar ofalwyr pan maen nhw yn mynd a pherson awtistig yno. Ond beth yw'r mathau o lefydd sydd yn addas i berson awtistig? Beth yw'r heriau i rieni a gofalwyr? A sut all caffi neu fwyty wneud mwy?

Mae Casi Jones o Landdaniel ar Ynys Môn yn fam i Dafydd, dyn ifanc 24 oed gydag anableddau dysgu sydd hefyd yn awtistig. Mae Dafydd yn cael ei gefnogi i fyw'n annibynnol mewn tŷ yng Nghaernarfon dan ofal Cartrefi Cymru ac yn gweithio yn y gerddi yn Antur Waunfawr.

Ar y penwythnos mae'n cael y cyfle i fynd allan am baned neu bryd o fwyd gyda'i fam ond beth tybed sy'n mynd drwy feddwl rhiant neu ofalwr wrth ddewis ble i fynd?

Ffynhonnell y llun, Casi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Casi, Dafydd a'i frawd Tomos

"Mae 'na lawer o bethau'n mynd drwy'r meddwl," meddai Casi. "Oes llefydd parcio yn agos at y caffi ac oes angen croesi ffordd brysur i'w gyrraedd? Gan fod gorbryder yn medru bod yn rhan o'r profiad awtistig, 'da ni'n dueddol o chwilio am le lle byddwn i'n gwybod y bydd Dafydd yn medru ymlacio ac os ydy e'n hapus, da ni'n medru ymlacio hefyd.

"Mae hi mor bwysig i bobl gydag anableddau i gymysgu gyda phobl eraill yn y gymuned ond mae hi'n bwysig hefyd i drïo gwneud hynny'n brofiad da."

Mae Casi wedi dweud wrth Cymru Fyw i ba fath o lefydd mae hi'n mynd gyda'i mab.

Ffynhonnell y llun, Casi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jones

Pa fath o gaffi neu leoliad mae Dafydd yn ei fwynhau fwyaf?

Os 'da ni'n bwyta tu mewn i fwyty neu gaffi go fawr, mae Dafydd yn mwynhau cael eistedd mewn rhyw fath o alcove neu gwtsh er mwyn cael mymryn o amddiffyniad rhag sŵn a bwrlwm y mynd a dod ond eto cael y profiad o fwynhau bod allan a gweld pobl. Mae 'na dŷ bwyta mae o'n hoffi yng Nghaernarfon sy'n darparu nifer o lefydd cysgodol i eistedd yng nghefn yr adeilad yn ogystal â lle mwy agored.

Galla i ddychmygu y byddai trefniant o'r math yma'n fanteisiol i grwpiau eraill yn y gymdeithas fel teuluoedd gyda phlant bach neu bobl sy'n cael trafferth clywed mewn lle swnllyd.

Mae hi'n handi hefyd os ydy'r tai bach yn agos a bod modd dewis rhwng archebu wrth y cownter neu wrth y bwrdd. Mae Dafydd newydd ddechrau mwynhau'r profiad o gario arian a thalu drosto'i hun ac mae hynny'n medru bod yn rhan o'r mwynhad o fynd allan i bob person ifanc am wn i.

Ffynhonnell y llun, Casi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn mwynhau paned mewn cefn caffi yng Nghaernarfon

Yn ystod y pandemig, mae nifer o dai bwyta a chaffis wedi cynnig llefydd i eistedd yn yr awyr agored - ydy llefydd felly yn apelio?

Hyd yn oed cyn y pandemig, roeddem yn aml iawn yn dewis caffis awyr agored os oedd hynny bosib. Mae Dafydd fel petai yn ei elfen yn yr awyr iach ac yn medru ymlacio'n haws yno rhywsut.

Yn ystod y pandemig, agorodd trelar goffi ger y Fenai yn y Felinheli ac erbyn hyn maen nhw'n cyfrif Dafydd a fi ymhlith eu cwsmeriaid gorau! Te gyda llaeth a siwgr i Dafydd a hufen ia mefus a choffi i fi (ac weithiau cacen os fydd neb yn edrych!). Wedyn mynd i eistedd ar y wal yn hamddenol braf a mwynhau'r olygfa.

Mae 'na ryw therapi yn dod o'r lleoliad hefyd wrth weld y cychod ar y dŵr a gweld plant yn chwarae yn y parc. Mae hyd yn oed modd rhoi eich cwpan i'w ailgylchu cyn mynd adre a Dafydd ydy'r ailgylchwr mwyaf brwd dwi erioed wedi'i gyfarfod!

Pa wahaniaeth mae agwedd ac ymddygiad staff yn medru gwneud i'r profiad o fwyta allan i Dafydd ac i chithau fel yr un sy'n cadw cwmni iddo?

Mae'n gwneud byd o wahaniaeth i'r profiad. Mae bod yn barod i fod yn hyblyg yn y ffordd ydach chi'n derbyn archebion a bod yn amyneddgar os ydy pobl angen mwy o amser i ddewis mor bwysig.

Os fedrwch chi ychwanegu gwên lydan ac osgo hamddenol mi fydd hynny'n gwneud byd o wahaniaeth hefyd. Os ydy staff yn ansicr sut i helpu, mae modd gofyn i'r cwsmer neu ei ofalwr oes 'na drefniant fyddai'n gwneud yr ymweliad yn haws iddyn nhw tro nesa.

Ffynhonnell y llun, Casi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Jones

Os ydy ymweliad yn gweithio'n dda fe fyddwn ni fel teulu yn debygol o fynd yno eto a bydd rhyw elfen o berthynas a chyd-ddealltwriaeth yn datblygu dros amser.

Mae 'chydig bach o feddwl a hyblygrwydd yn y trefniadau a pharodrwydd y staff i ddangos diddordeb yn mynd yn bell iawn. Dwi'n edrych ymlaen at glywed mwy am y cynllun yn Sir Fôn ond mae'n swnio fel rhywbeth defnyddiol iawn ar gyfer teuluoedd a gofalwyr wrth gynllunio ac i staff yn y bwytai a'r lleoliadau hefyd.

Pa gyngor arall fyddech yn rhoi i fusnes newydd?

Petai rywun am agor bwyty neu gaffi am y tro cyntaf ac yn meddwl sut i rannu'r gofod er mwyn bod yn groesawgar i bobl gydag anableddau dysgu mi fyddwn i'n awgrymu mai'r ddelfryd byddai gallu rhoi dewis.

Mewn un caffi yn Aberaeron fe welson ni fwydlen gyda dim ond lluniau arno sy'n syniad gwych hefyd i rai sy ddim yn ei chael hi'n hawdd defnyddio geiriau i archebu.

Mae modd meddwl am gant a mil o bethau bach fel hyn sy'n medru gwneud gwahaniaeth mawr i bobl yn enwedig gan nad ydy anghenion pawb ddim 'run fath.

Hefyd o ddiddordeb: