'Gwerthfawrogi cael siarad am awtistiaeth yn Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sara Jones a'i merch Marged yn mwynhau mynd i weld Strictly Come Dancing cyn CovidFfynhonnell y llun, Sara Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sara Jones a'i merch Marged yn mwynhau mynd i weld Strictly Come Dancing cyn Covid

"Pan weles i fod rhywun yn cynnig ffurfio grŵp Cymraeg i drafod awtistiaeth, ro'n i mor falch gan fod dirfawr angen," meddai Sara Jones o Bont-siân ger Llandysul.

"Mae'r cyfnod clo wedi 'neud bywyd yn anodd i nifer ohonon ni ond i rywun awtistig fel Marged y ferch mae'r holl ansicrwydd wedi bod yn anodd iawn, iawn ac mae'n becso lot am bethe'.

"Ond hefyd ni ddim wedi gallu trafod pethe 'da neb - does neb ffordd hyn i 'weud y gwir yn yr un cwch â ni.

"Bydd e mor neis trafod profiadau 'da pobl sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg."

Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd trefn arferol Joel ei chwalu yn y cyfnod clo, ac ni ddaeth adref at ei rieni Elin a Peris

Ddechrau'r wythnos fe wnaeth Elin Llwyd Morgan, sy'n fam i ddyn ifanc awtistig, ofyn ar y cyfryngau cymdeithasol a fyddai yna ddiddordeb i gael "grŵp cymorth a thrafod Cymraeg i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan awtistiaeth".

O fewn oriau roedd degau wedi dangos diddordeb ac yn gweld angen am grŵp o'r fath.

"Bydd o'n gyfle i bobl holi cwestiynau, bwrw bol a thrafod diagnosis a bywyd yn gyffredinol. Mae croeso i bobl awtistig fod yn rhan o'r grŵp hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joel bellach yn cael ei asesu a'i drin mewn uned iechyd meddwl yn Llanfairfechan

"Mae'r cyfnod clo, dwi'n meddwl, wedi gneud bywyd yn anoddach i bobl a theuluoedd pobl awtistig - fel dwi'n gwybod maen nhw angen strwythur pendant.

"Tydi ein mab ni ddim wedi ymdopi'n dda o gwbl ac ers mis Medi mae o wedi bod yn cael ei asesu a'i drin mewn uned iechyd meddwl yn Llanfairfechan am fod y cartre lle'r oedd o'n teimlo nad oedden nhw'n medru'i helpu o.

"Ma' rhywun yn aml yn medru anobeithio ac mae'n braf trafod efo pobl eraill."

Roedd Marged o Bont-siân yn 15 ar ddechrau'r cyfnod clo, a dywed ei mam bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol.

Ffynhonnell y llun, Sara Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae strwythur pendant yn bwysig i Marged ac mae mynd â Mia'r ci yn rhan bwysig o'r diwrnod

"Ni'n ffodus nad oes problemau dwys 'da Marged, ond pan ddo'th y cyfnod clo ro'dd ei phatrwm bywyd wedi newid yn llwyr ac mae hynny mor anodd i berson awtistig," ychwanegodd Sara Jones.

"Mae Marged yn un sy'n lico gw'bod be sy'n digwydd - mae routine yn bwysig, felly pan dda'th y cyfnod clo ro'dd popeth yn newid ac mae hynny mor anodd.

"Yn sydyn iawn do'dd 'na ddim ffrindiau i siarad â nhw a ma' 'neud ffrindiau yn gallu bod yn anodd.

"Ro'dd ca'l gwersi ar-lein gan Goleg Ceredigion yn anodd hefyd - do'dd Marged ddim am roi'r camera mla'n a do'dd y bybls cymysgu ddim yn gweithio iddi hi.

"Mae wedi bod yn teimlo'n ddiflas iawn yn aml ac wedi torri lawr - poeni bod 'da hi ddim ffrindiau a becso am y dyfodol.

"Ac fe dda'th diwedd ar drefn arferol bywyd yn do? Ni ers blynyddoedd wedi bod yn mynd i weld Strictly yn Birmingham a ma' Marged yn edrych ymlaen am fisoedd ond da'th hynna i ben hefyd am gyfnod.

"Ma' na gynllunio manwl o ran prynu tocyn trên, pa lefydd bwyd i fynd iddynt a does dim gwyro oddi ar hynny."

Ffynhonnell y llun, Sara Jones
Disgrifiad o’r llun,

Marged (dde) a'r Gymraes Amy Dowden o Strictly Come Dancing

Ychwanegodd: "Ni wrth gwrs - fi a'r gŵr a'r ddau fab - yn gefn i'n gilydd ond mae hi mor bwysig siarad â phobl eraill yn yr un cwch.

"Ma' rywun yn meddwl am y dyfodol hefyd wrth gwrs ac am gyfleodd gwaith. Mae Marged mewn cyfnod nawr - yn 18 eleni - lle mae pobl wedi dechrau sôn am fod yn annibynnol ac mae hynna'n codi ofn arni.

"Un peth 'naethon ni llynedd o'dd prynu cath fach fel ffrind i Marged ac mae hi wrth ei bodd 'da hynny - ac yn ddeddfol mae hi'n mynd â'r ci, Mia, am dro yr un pryd bob dydd.

"Ni'n meddwl tipyn am y dyfodol. Bydd hi mor neis trafod profiadau a syniadau gyda phobl eraill."

'Nid rhywbeth negyddol yw e'

Un arall sy'n gwerthfawrogi cael grŵp o'r fath yw Anwen Mair, sydd yn awtistig ei hun.

"I mi mae'n syniad o berthyn," meddai wrth Cymru Fyw.

"Fel person awtistig yn aml rydych chi'n teimlo tu hwnt i bawb arall, ond gyda grŵp cyfrwng Cymraeg mae'r teimlad eich bod chi'n perthyn.

"Hefyd yn aml mae anableddau'n cael eu trafod mewn peuoedd Saesneg felly mae'n bwysig i'r iaith ein bod yn cael y cyfle i drafod pethau yn y Gymraeg.

"Rwy'n gobeithio gallu helpu pobl i dderbyn eu diagnosis neu ddiagnosis eu plant a gweld nad rhywbeth negyddol yw awtistiaeth ond jyst gwahanol.

"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y grŵp yma'n gynhwysfawr ac yn gwrando ar leisiau awtistig gyda'r gobaith o wella dealltwriaeth pawb a rhoi cymorth i'r sawl sydd ei angen."

'Dim cefnogaeth'

"Mae cael grŵp fel hyn mor werthfawr ac yn gyfle i bawb rannu profiadau," meddai Meinir Lewis-Jones o Sir Benfro.

Ffynhonnell y llun, Wicipedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r symbol anfeidredd yn lliwiau'r enfys yn cynrychioli amrywiaeth y sbectrwm awtistiaeth

"Dwi ddim yn beio neb ond dwi ddim yn teimlo ein bod ni wedi cael fawr o gefnogaeth.

"Chafodd Osian, sydd erbyn hyn yn 19, ddim diagnosis nes bod e'n 16 - ond ro'n i fel mam ac athrawes yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Gan fod Osian yn cael ffitiau ro'dd yr holl sylw yn mynd i hynny.

"Dwi'n teimlo fy mod i wedi gorfod ymladd am bopeth. Mae bywyd wedi bod yn eitha' anodd wrth i Osian fynd yn hŷn - a'r cyfan wedi rhoi lot o straen ar y teulu.

"Mae Osian yn eitha' ynysig - mae cymdeithasu gyda'i gyfoedion yn anodd iddo, dyw e ddim yn deall arian a dwi'm yn credu y bydd e'n gallu bod yn annibynnol - ond mae e am fod fel pawb arall wrth gwrs.

"Cymraeg yw'n iaith gyfathrebu ni ac fe fydd hi mor ddefnyddiol trafod sefyllfaoedd yn Gymraeg - bydd hi'n braf trafod y dyfodol, sy'n dywyll ar adegau, gyda phobl sy'n deall."

Mae modd ymuno â'r grŵp drwy wneud cais i gyfrif Facebook Awtistiaeth, y Cyflwr Cudd, dolen allanol.