Adran Dau: Casnewydd 0-2 Rochdale

  • Cyhoeddwyd
Cameron Norman a Stephen DooleyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cameron Norman a Stephen Dooley yn cystadlu am y bêl ar Rodney Parade

Gorffen y tymor yn yr 11eg safle fydd tynged Casnewydd ar ôl colli gartref brynhawn Sadwrn.

Roedd hi'n ymddangos mai ond gôl fyddai ynddi wrth i gyn chwaraewr Wrecsam, Matty Done, rwydo wedi 16 munud.

Ond daeth ail i'r ymwelwyr yn ystod amser ychwanegol diolch i Abraham Odoh.

Y tîm cartref welodd y mwyaf o'r bel yn ogystal a chyfleon, ond ni lwyddodd Yr Alltudion i ddarganfod cefn y rhwyd er mawr siom y cefnogwyr cartref.

Daeth eu cyfle gorau gyda ergyd Finn Azaz yn taro'n erbyn y postyn yn fuan yn yr ail hanner.

Yr wythnos hon welwyd adroddiadau yn y wasg yn cysylltu'r rheolwr, James Rowberry, gyda swydd QPR.

Ond gyda Rowberry yn dweud ei fod am aros gyda Chasnewydd y tymor nesaf, mae'n ymddangos bod haf o ail adeiladu o'i flaen.