Ydych chi'n credu ofergoelion Dydd Gwener y 13eg?
- Cyhoeddwyd
Ydych chi'n ofergoelus ac yn aros yn eich gwely heddiw? Mae nifer o bobl yn fwy pwyllog nag arfer a hithau yn ddydd Gwener y 13eg.
Mae cannoedd o ofergoelion yn ymwneud â bywyd dydd i ddydd, y byd chwaraeon, byd y theatr, crefydd, a sawl maes arall - ond beth yw rhai o'r rhai amlycaf?
Gall gwahanol ofergoelion ymwneud â phethau da, neu bethau drwg, ac maen nhw'n amrywio o gyfandir i gyfandir, ac o wlad i wlad. Dyma hanes 13 o'r ofergoelion mwyaf poblogaidd:
1) Pen-blwydd hapus!
Mae llawer yn credu os y gwnewch chi ddymuniad distaw i chi'ch hun tra'n chwythu pob cannwyll ar gacen pen-blwydd yna daw'r dymuniad yn wir.
Roedd yr Eifftwyr yn nodi pen-blwyddi y Ffaros, ond mae'n debyg mai'r Groegiaid ddechreuodd yr arferion pen-blwydd yr ydym yn eu 'nabod heddiw. Roedd y canwyllau yn cael eu defnyddio i gael gwared ag ysbrydion drwg. Roedden nhw'n credu bod chwythu'r canwyllau yn mynd â dymuniadau'r unigolyn i'r Duwiau yn y nefoedd.
2) Troediwch yn ofalus
Mae rhoi esgidiau newydd ar y bwrdd yn cael ei weld fel lwc ddrwg gan lawer. Un esboniad am hyn yw am fod esgidiau ers talwm wedi eu gwneud â hoelion trwm a oedd yn gallu marcio byrddau gan achosi ffraeo mewn sawl cartref.
Ond ar nodyn mwy difrifol, pan oedd glöwr yn marw roedd yn draddodiad i roi ei esgidiau ar y bwrdd. Mewn sefyllfaoedd eraill byddai pobl yn osgoi rhoi esgidiau ar y bwrdd rhag ofn i'r gwisgwr wynebu'r un ffawd â'r glöwr.
3) Mae hyn yn hallt
Mae tywallt halen ar y bwrdd yn achosi ffrae. Os nad ydych chi'n ein credu ni, darllenwch Ateb y Galw y sylwebydd pêl-droed Malcolm Allen! Un ffordd o osgoi lwc ddrwg ydi taflu halen dros eich ysgwydd chwith gyda'ch llaw dde.
Mae'r ofergoel hon yn deillio o ddarlun Y Swper Olaf gan Leonardo da Vinci. Mae'r arlunydd yn awgrymu bod Jiwdas wedi taro'r halen drosodd gyda'i benelin tra'n cynllwynio i ladd Iesu Grist.
4) Gof-al pia hi!
Mae 'na ambell i bedol i'w gweld uwchben drysau tai. Pan fydd y bedol wedi ei gosod fel 'U' arferol mae rhai'n credu ei bod yn casglu lwc dda gan ei bod yn gwarchod rhag ysbrydion dieflig. Ond, os yw wedi ei gosod fel 'U' ben i waered, mae'r lwc yn diflannu.
5) Lwc dda, lwc ddrwg?
Mae rhai yn ystyried gweld cath ddu yn croesi eu llwybr fel arwydd o lwc dda, tra bod eraill yn ei weld fel arwydd o lwc ddrwg. Roedd cyfnod pan oedd diwylliannau Ewropeaidd yn ofni cathod du, gan gredu bod cathod yn weision i wrachod, neu bod gwrachod eu hunain yn troi mewn i gathod gyda'r nos.
6) Mae 'na reswm pam eu bod yn ddu a gwyn!
Gall pïod ddod â lwc dda neu lwc ddrwg yn ôl rhai. Mae gweld un bioden yn anlwcus ond os gwelwch chi ddwy gyda'i gilydd mae'n cael ei weld fel arwydd o lwc dda. Mae'n debyg bod yr ofergoel yma'n ddeillio o'r hen hwiangerdd "One for sorrow, two for joy, three for a girl, four for a boy, five for silver, six for gold, seven for a secret never to be told".
7) Mae hi'n bwrw eto. Pwy f'asai'n meddwl?
Mae agor ymbarel dan-do yn cael ei ystyried yn anlwcus. Mae'r enw yn dod o umbra, y gair Lladin sy'n golygu cysgod neu 'yn y cysgod'.
Roedd yr Eifftiaid yn addoli duwiau'r haul ac mae 'na gred eu bod nhw'n gweld agor ymbarel dan do ac ymhell o oleuni'r haul yn amharchus. Roedden nhw ofn i'r duwiau ddial arnyn nhw.
Ond yn fwy diweddar mae 'na awgrym fod yr ofn wedi deillio o ystyriaethau diogelwch. Ers talwm roedd ymabrel wedi eu gwneud â phigau caled metal oedd yn eu gwneud yn beryg mewn mannau cyfyngedig. Enghraifft cynnar o reolau iechyd a diogelwch!
8) Camwch heibio!
Mae rhai yn credu bod cerdded dan ysgol yn debyg o ddod â lwc ddrwg.
Yn amlwg mae cerdded dan ysgol yn beth gymharol beryglus i'w wneud beth bynnag, ond esboniad arall yw bod Cristnogion cynnar yn credu fod y Tad, Mab a'r Ysbryd Glân o fewn tair ochr y triongl sy'n cael ei ffurfio gyda ysgol yn erbyn wal, ac y byddai cerdded trwyddi fel torri'r drindod sanctaidd.
9) Pin-derfynol o gael lwc dda?
Mae rhai yn credu y cewch chi lwc dda am weddil y dydd os y gwelwch chi bin ar y llawr a'i godi. Mae'n debyg bod ambell un wedi dilyn llinell agoriadol llyfr cerddi 'The Real Mother Goose' yn llythrennol. Mae 'na rai yn dilyn arferiad tebyg trwy godi ceiniog y maen nhw'n weld ar y llawr
10) Cnoc cnoc, pwy sy' 'na?
Os 'dych chi wedi siarad am anlwc mae 'na rai sy'n awgrymu y dylech chi gnocio ar ddarn o bren. Mae 'na rai sy'n credu bod gwneud hynny yn beth da i'w wneud os yn siarad am lwc dda hefyd.
Mae'n debyg mai arferiad paganaidd oedd hwn pan oedd 'na gred bod ysbrydion natur yn byw mewn coed. Roedd y Paganiaid yn credu bod cnocio ar goeden yn dod â chymorth gan yr ysbrydion.
11) Drychwch be 'da chi wedi ei 'neud!
Os ydych yn torri drych, mae 'na rai yn credu y cewch chi saith mlynedd o lwc ddrwg. Mae'r gred hon yn deillio o oes y Rhufeiniaid. Roedden nhw'n credu ei bod hi'n bosib osgoi'r saith mlynedd anlwcus trwy gladdu y darnau o wydr dan olau'r lloer.
12) Cwningod yr isfyd
Mae'r gred bod troed cwningen yn symbol o lwc yn boblogaidd ar hyd a lled y byd. Yn y cyfnod 600 c.c roedd y Celtiaid yn credu bod cwningod yn tyllu ymhell o dan wyneb y ddaear am fod ganddyn nhw gysylltiad uniongyrchol gyda Duwiau ac ysbrydion yr isfyd.
14) 13
'Dyn ni ddim wedi gwneud camgymeriad, mae'r rhif 13 yn (honedig) anlwcus! Mae rhai yn mynd i eithafion ac yn aros yn eu gwlâu ar ddydd Gwener y 13eg tra bod ambell i adeilad aml-lawr yn defnyddio 12a yn hytrach na'r rhif maen nhw'n ystyried yn anlwcus.
Mae ofni'r rhif yn cael ei adnabod fel 'triskaidekaphobia'.
Un theori yw ei fod yn deillio o chwedlau gwledydd Llychlyn pan oedd 12 Duw yn gwledda, ac fe ymddangosodd Loki, un o'r duwiau eraill, gan achosi marwolaeth Balder. Mae'n bosib dweud bod Balder yn an-lokis iawn...