Gwrthdrawiad A55: 'Gyrru ar gryn gyflymdra'

  • Cyhoeddwyd
A55Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y lôn ddwyreiniol, rhwng cyffyrdd Dwygyfylchi a Chonwy

Roedd llanc 19 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ger twnnel Pen-y-clip yn Sir Conwy yn gyrru ar gryn gyflymdra, clywodd cwest i'w farwolaeth.

Fe wnaeth Vauxhall Astra Robert Christopher Adams daro mewn i gefn lori tua 01:30 ar 8 Mai.

Roedd y ddau gerbyd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Nwygyfylchi.

Dywedodd John Gittins, crwner Gogledd-Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, ei bod yn ymddangos fod Mr Adams yn teithio ar "gryn gyflymdra", gyda gyrrwr y lorri yn dweud ei fod yn arafu ar y lôn fewnol wrth gyrraedd ardal cyflymdra 30mya.

Fe aeth yr Astra yn sownd yng nghefn y lori.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei deulu fod "Robert yn ddyn ifanc golygus gyda chymaint i edrych ymlaen ato"

Anafiadau i'r pen oedd achos y farwolaeth yn ôl canfyddiadau cychwynnol y patholegydd Dr Mark Atkinson.

Ychwanegodd ei fod wedi anfon samplau ar gyfer profion tocsicoleg.

Cafodd Mr Adams ei ddisgrifio gan ei deulu fel "dyn ifanc golygus gyda chymaint i edrych ymlaen ato".

Wrth ohirio'r gwrandawiad dywedodd y crwner y bydd yr achos angen ymchwiliad sylweddol gan uned fforensig Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd ei fod yn gobeithio cynnal y cwest llawn cyn diwedd y flwyddyn.

Pynciau cysylltiedig