'Bradwr' Sinn Féin oedd â gwreiddiau yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Crëwyd hanes yn Iwerddon ar ddechrau mis Mai pan enillodd plaid genedlaethol Iwerddon, Sinn Féin, y mwyaf o seddi yng ngogledd Iwerddon am y tro cyntaf erioed.
Mae'r blaid yn dyddio yn ôl i 1905 pan gafodd hi ei sefydlu gan Arthur Griffith - sef gŵr oedd â'i wreiddiau yn Eryri. Ystyr Sinn Féin ydi 'ni ein hunain' mewn Gwyddeleg ac fel tarddiad yr enw, bwriad Griffith oedd gweld ei wlad yn torri'n rhydd o Brydain.
Er iddo lwyddo i wneud hynny i raddau, fel hanes Iwerddon ei hun, mae hanes Sinn Féin a'u perthynas gyda'u sylfaenydd - sydd â'i wreiddiau ger Llyn y Dywarchen yn Nrws y Coed, Dyffryn Nantlle - yn un cymhleth dros ben.
Griffith oedd yn gyfrifol am gynnal trafodaethau'r cytundeb Eingl-Wyddelig wnaeth wneud Iwerddon yn wladwriaeth annibynnol. Ond fe adawodd be ddaeth yn sgil y cytundeb hwnnw staen waedlyd ar Iwerddon a hollt rhwng cenedlaetholwyr y wlad am byth.
Ganrif ers i Arthur Griffith farw yn 1922 mae Sinn Féin wedi cyrraedd ei safle cryfaf erioed ond dydi'r blaid dal ddim yn arddel y dyn wnaeth agor y llifddorau at wladwriaeth rydd. Ond pam yn union? A be ydi cysylltiad od gogledd Cymru gyda'r cytundeb Eingl-Wyddelig tybed?
Yr Athro Richard Wyn Jones, sy'n ymddiddori yn hanes Griffith, sy'n esbonio:
"Mae'n ddiddorol. Maen nhw efo perthynas gymhleth iawn efo'u sylfaenydd," meddai.
"Fasa' nhw ddim yn mopio gydag Arthur Griffith yn y ffordd fasa ti'n disgwyl o ystyried ei rôl o yn sylfaenu'r mudiad maen nhw'n cymryd ei enw fo heddiw.
"Oherwydd be ddigwyddodd ar ôl annibyniaeth, ac yn enwedig y Rhyfel Cartref, mae ymwneud gweinyddiaeth bresennol Sinn Féin efo gorffennol Sinn Féin yn ofnadwy o gymhleth."
'Ni ein hunain'
Pan sefydlodd y blaid yn 1905 roedd Griffith yn gwbl ddilornus o'r posibiliad y byddai grym Prydain yn ildio i rym democratiaeth a chredai nad oedd seneddiaeth - y broses o anfon pobl i Lundain a gofyn i Lundain barchu hawliau democrataidd y Gwyddelod - fyth am weithio.
Ei gred oedd na fyddai'r wladwriaeth Saesnig byth yn parchu hawliau Iwerddon felly teimlodd fod rhaid i Iwerddon gymryd pethau mewn i'w dwylo ei hun fod yn 'ni ein hunain'.
"Ei syniad oedd y dylai aelodau seneddol Iwerddon wrthod mynd i Lundain ac y dylen nhw ddefnyddio llywodraeth leol yn Iwerddon er mwyn adeiladu gwladwriaeth annibynnol," esbonia Richard Wyn Jones.
"Yn hytrach na dibynnu ar Lundain a rhoi - dylai'r Gwyddelod gymryd."
'Embaras'
I ddechrau, lleiafrif bychan iawn oedd yn cytuno gyda'i agwedd ond yn raddol, oherwydd grym propaganda Griffith ac anwybyddu cyson o Lundain, crëwyd sefyllfa lle daeth ei syniadau yn boblogaidd tu hwnt.
"Yn enwedig ar ôl Gwrthryfel y Pasg ac ymateb trychinebus y wladwriaeth Brydeinig yn dienyddio arweinwyr y Gwrthryfel... ddaru'r syniadau yna yn sydyn iawn ddod yn gwbl ddominyddol."
Er fod tuedd reit heddychol yn syniadau Griffith roedd yn amlwg yn cefnogi'r gwrthyfelwyr yng Ngwrthryfel y Pasg 1916, pan safodd cenedlaetholwyr Iwerddon gyda'u gynnau yn erbyn rheolaeth Brydeinig.
"Doedd o ddim yn rhan o ochr filwrol y mudiad cenedlaethol ond pan ddaru o glywed am y gwrthryfel ddaru o fynd allan i ymuno. Yr hanes ydi ei fod o wedi ffarwelio â'i wraig a dweud na fyddai fyth yn dod 'nôl."
Ond pam nad ydi'r blaid wnaeth Griffith ei sefydlu yn ei arddel o heddiw tybed?
Dyma lle mae pethau yn mynd yn gymhleth...
Roedd Arthur Griffith, ynghyd â'r Gweinidog Cyllid, Michael Collins, yn cytuno ar gytundeb Eingl-Wyddelig - cytundeb roedd Griffith yn gwbl grediniol fyddai'n dod â rhyddid i Iwerddon.
Arwyddwyd y cytundeb gan roi statws dominiwn (gwlad o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig) yn hytrach na gweriniaeth. Fe arweiniodd ei gread at Ryfel Cartref Iwerddon yn 1922 wnaeth greu hollt chwerw rhwng cefnogwyr y cytundeb a'r rhai oedd yn ei erbyn. Mae'r hollt yma yn dal i fodoli heddiw a dyma ble mae perthynas Sinn Féin a Griffith yn mynd yn niwlog.
"Yn nhermau'r rhyfel cartref mi fydda'r Sinn Féin cyfoes yn eu gweld eu hunain yn olynwyr i'r bobl oedd yn erbyn y cytundeb Eingl-Wyddelig ddaru ddod â rhyddid i Iwerddon.
"Felly maen nhw yn sefyll fel olynwyr i'r bobl ddaru ymladd yn erbyn y Free Staters ac roedd Arthur Griffith yn un o'r rheiny - yn un o'r bobl ddaru arwyddo'r cytundeb efo Prydain, efo Lloyd George a'i lywodraeth.
"Be sydd yn ddiddorol ydi bod syniadau Arthur Griffith wedi cael eu mabwysiadu gan bawb. Os ti'n edrych ar be mae'r bobl o ddwy ochr y rhyfel cartef yn ei ddweud... syniadau Griffith oeddan nhw i raddau helaeth.
"Ond oherwydd chwerwedd y rhyfel cartref mae un ochr yn ffeindio Griffith yn embaras - am ei fod yn gwneud cytundeb efo Llundain."
Diddordeb y Cymry
Yn ôl Richard Wyn Jones, pan roedd Iwerddon yn nesáu at y rhyfel cartref roedd gelynion Griffith wedi honni ei fod o yn Gymro oedd efo dim math o waed Gwyddelig a bod hyn yn ei wneud yn annilys.
"Roedd ei wreiddiau Cymreig yn hysbys. Roedd pobl yn gwybod amdano fo ac roedd ei elynion yn defnyddio'r ffaith ei fod o ddim o dras Wyddelig.
"Ond Gwyddel oedd o, gafodd o ei eni a'i fagu yn Iwerddon ac roedd o yn Gatholig. Felly roedd o wedi teithio yn reit bell yn ddiwylliannol o Ddrws y Coed."
Yn hen ffermdy Drws y Coed Uchaf roedd gwreiddiau Arthur Griffith. Roedd ei hen, hen daid, William Griffith, yn ffermwr ac yn gefnogwr o'r eglwys Morafaidd yno. Mudodd ei hen daid, Griffith Griffith, o Eryri i'r Unol Daleithiau ac yna i Iwerddon lle'r oedd ei chwiorydd wedi symud yn barod a dyma lle ganwyd Griffith.
Drws-y-Coed, Frongoch, Llanystumdwy...
Ond mae 'na berthynas ddyfnach rhwng Eryri ac Iwerddon yn ymwneud â siapio Iwerddon ar ddechrau'r 19eg ganrif na gwreiddiau Griffith yn unig.
"Mae 'na rywbeth bizarre am y cyswllt rhwng gogledd orllewin Cymru a be ddigwyddodd," meddai Richard Wyn Jones.
"Roedd 'na ddiddordeb mawr yng Nghymru yn hyn i gyd yn enwedig yn y mudiad cenedlaethol milwriaethus. Roedd pobl fel DJ Williams Abergwaun, un o'r tri losgodd ysgol fomio Penyberth, wedi mynd draw i Ddulyn ac wedi cyfarfod Arthur Griffith a Michael Collins.
"Ddaru'r Gwyddelod fynd a lot o wrthryfelwyr i Frongoch (ger y Bala) a'u sticio nhw mewn carchar yn fanna. Maen nhw yn galw Frongoch yn 'Brifysgol y Chwyldro', lle ddaru lot fawr o Wyddelod oedd wedi cymryd rhan yn Rhyfel y Pasg fireinio eu syniadau ar be oeddan nhw yn mynd i wneud nesa.
"Un oedd wedi ei garcharu yno oedd Michael Collins ac mae 'na lot o hanesion am yr effaith gafodd clywed Cymraeg gan rai o weithwyr camp Fron Goch ar y Gwyddelod, fel Collins."
"Wedyn os ti'n meddwl am y cytundeb Eingl-Wyddelig wrth gwrs roedd gen ti ar un ochr Lloyd George o Lanystumdwy oedd yn dadlau achos y wladwriaeth Brydeinig.
"Wrth gwrs mae 'na lot fawr o hanes Lloyd George, gŵr oedd wedi bod yn genedlaetholwr Cymreig, oedd wedi dod yn arweinydd yr ymerodraeth... yn bygwth y Gwyddelod. Roedd llawer iawn o Wyddelod yn teimlo'n chwerw iawn am hynny."
Felly, fel mae Richard Wyn Jones yn egluro, mae gan Ddrws y Coed, Fron Goch a Llanystumdwy gysylltiad clos gyda'r hyn ddigwyddodd yn Iwerddon yn y cyfnod.
Bradwr
Mae'r diffyg o ran dathlu enw Arthur Griffith hyd heddiw yn adlewyrchiad o hanes cymhleth Iwerddon a phlaid sydd wedi newid ei delfrydau dros y 100 mlynedd ers ei farwolaeth.
"Mae o yn amlwg yn sylfaenydd i Sinn Féin ond oherwydd bod yr ochr sydd yn rhedeg Sinn Féin yn gweld Griffith fel rhyw fath o fradwr, dydyn nhw ddim yn arddel Griffith fel rhyw fath o gysylltiad," meddai Richard Wyn Jones.
"Fasa ti ddim yn disgwyl y criw yna sydd mor llwyddiannus yn Iwerddon yn y de a'r gogledd ar hyn o bryd i'w arddel o oherwydd y rhyfel cartref a'r chwerwder ddaeth yn sgil hwnnw.
"Y Free Staters fel roedden nhw yn eu galw nhw... pobl oeddan nhw yn ystyried oedd wedi bradychu delfrydau Gwrthryfel y Pasg."
Hefyd o ddiddordeb: