'Angen ehangu yn sgil prinder lled-ddargludyddion'
- Cyhoeddwyd
Bydd ehangu ffatri yng Nghasnewydd yn "hollbwysig" i fynd i'r afael â'r prinder byd-eang o led-ddargludyddion, yn ôl pennaeth cwmni IQE.
Mae ffonau Apple ymhlith y dyfeisiau sy'n defnyddio rhannau a gynhyrchir gan IQE.
Mae'r cwmni Cymreig yn cynhyrchu wafferi bychain ar gyfer pob math o ddyfeisiadau.
Dywedodd y prif weithredwr newydd Americo Lemos bod angen cyflymu cynlluniau i ehangu capasiti.
"Mae Casnewydd yn hollbwysig," meddai Mr Lemos.
"Rydyn ni'n adeiladu cynhyrchion yma sy'n mynd ledled y byd. Gwahanol fathau o dechnolegau, gwahanol fathau o gynnyrch, sydd wir yn gwella bywydau pobl.
"A dyma beth rydw i'n gyffrous amdano fe. Wrth i ni dyfu'r safle yma gyda'r buddsoddiad cywir, byddwn yn gallu cynyddu ein cynnyrch ledled y byd."
Mae Mr Lemos wedi dechrau trafodaethau gyda llywodraethau Cymru a'r DU ynglŷn ag ariannu'r cynllun i ehangu, tra bod noddwyr preifat hefyd yn cael eu denu.
Mae galw mawr am led-ddargludyddion ers i lai ddod i'r farchnad oherwydd y pandemig.
Mae'r prinder wedi arwain at rai gweithgynhyrchwyr yn canslo neu'n gohirio cyflenwadau wrth iddyn nhw aros i'r cydrannau hanfodol gael eu cynhyrchu.
Mae gan safle IQE yng Nghasnewydd ardaloedd gwag helaeth y gellir eu defnyddio'n gyflym i ehangu cynhyrchiant y wafferi.
Dywedodd Mr Lemos ei fod yn gobeithio y byddai cyllid y llywodraeth yn dod yn "gyflym iawn".
"Mae'r prinder lled-ddargludyddion wedi effeithio ar ran fawr iawn o'r economi, fel y [sector] modurol a'r holl feysydd hynny o'n bywydau bob dydd.
"Felly, mae'r gost o beidio â chael y cynhyrchion hynny yn llawer uwch na'r buddsoddiad sydd ei angen i wneud iddo ddigwydd."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch o glywed am gynlluniau uchelgeisiol IQE ar gyfer tyfu'r safle yng Nghasnewydd.
"Mae angen ymagwedd glir a chydlynol at y diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU; bydd angen i lywodraethau weithio gyda'i gilydd, a gyda'r sector."
Mae Casnewydd yn gartref i sawl cwmni sy'n cael eu hadnabod gyda'i gilydd fel y clwstwr lled-ddargludyddion.
Maen nhw'n cynnwys cwmni IQE, a sefydlwyd yn yr 1980au ond sydd wedi'i leoli yn hen ffatri LG yng Nghasnewydd ers 2018.
'Effeithio ar fywyd bob dydd'
Mae'r cwmni yn cynhyrchu wafferi epitacsi (epitaxy wafers) yng Nghasnewydd sy'n elfen hanfodol o led-ddargludyddion cyfansawdd.
"Mae'r stwff rydyn ni'n ei wneud yma yn mynd i mewn i'ch ffonau, mae'r stwff rydyn ni'n ei wneud yma yn mynd i mewn i'ch dyfeisiau eraill," meddai Americo Lemos wrth BBC Cymru.
"Dydw i ddim yn gallu rhestru'r cwsmeriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw oherwydd cytundebau cyfrinachol. Ond, credwch chi fi, byddwn yn effeithio ar eich bywyd bob dydd."
Dywedodd Mr Lemos nad oedd yn nerfus am adolygiad llywodraeth y DU o ddylanwad Tsieineaidd ar y sector.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad diogelwch i'r broses o brynu Newport Wafer Fab gan Nexperia, busnes o'r Iseldiroedd ond sydd dan reolaeth cwmni Wingtech sydd wedi'i leoli yn Shanghai.
"Rydyn ni i gyd yn deall y tensiynau geopolitical rydyn ni'n byw ynddynt," meddai Mr Lemos.
"Ond rydym yn gwmni byd-eang, ac rydym yn bwriadu gweithio ym mhob marchnad bosibl lle mae busnes, o fewn y fframwaith sy'n bodoli heddiw.
"Felly dwi'n fwy cyffrous na nerfus, a dweud y gwir, am ddyfodol y cwmni yma a'r safle rydyn ni ynddo fe."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2022