Beth nesaf i fudiad yr Urdd?

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o bobl yn mwynhau'r UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Wrth i'r Urdd ddathlu'r canrif eleni, Cymru Fyw fu'n holi rhai sy'n adnabod y mudiad yn dda am ei llwyddiannau a'i heriau dros y degawdau.

Ac os yw mudiad plant a ieuenctid Cymru am barhau am ganrif arall, beth yw'r gwersi sydd i'w dysgu o'r gorffennol, a pha heriau sy'n ei wynebu yn y dyfodol?

Alun Ffred Jones, Cyn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o’r llun,

Alun Ffred Jones, fu'n lywydd y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri yn 2012, yn helpu torri'r dywarchen gyntaf ar y safle yng Nglynllifon

Llwyddiannau

Mae'r gwersylloedd wedi bod yn llwyddiant mawr ac yn bwysig iawn i ddatblygu diwylliant Cymru. I Langrannog roeddwn i'n mynd pan yn blentyn ac i rywun cymharol fewnblyg a dihyder roedd o'n lle da i gymysgu ac i ddod i adnabod pobl o bob rhan o Gymru, a chyd-chwarae, a dwi'n meddwl bod y gwersylloedd yn lwyddiant eithriadol.

Ac yn fy nghyfnod yn Aelwyd yr Urdd yn Llanuwchllyn yn y 60au, roedd y cymdeithasu a'r pethau roedda ni'n cael ein gorfodi i wneud efallai, ac yn gwneud o'n gwirfodd - boed yn ganu, neu actio neu'r peth ofnadwy hynny sef siarad cyhoeddus - neu chwaraeon - mae'r cyfleoedd hynny dwi'n meddwl pan oedd rhywun yn ei arddegau yn eithriadol o bwysig.

Gwelliannau

Dwi ddim yn siŵr ydw i mewn sefyllfa i feirniadu, ond yr argraff ges i ar ôl y cyfnod pan o ni'n ymwneud a'r gweithgareddau, oedd bod yr Urdd wedi troi'n fwy o fudiad plant ac ysgolion a bod y wedd gymdeithasol yna i ieuenctid, i bobl ifanc, wedi ei ildio mwy neu lai i Glybiau Ffermwyr Ifanc - yn sicr yng nghefn gwlad.

A tra mae rheiny yn gwneud gwaith ardderchog dydi ffocws y clybiau, er mor Gymreig ydi nhw ffordd yma, ddim yr un fath - ac fe gollwyd wedyn yr aelwydydd yn y trefi ar wahân i'r gweithgareddau Steddfod.

Dwi'n meddwl bod honno yn gamgymeriad, a dwi ddim yn gwybod ai newid cymdeithasol oedd o neu newid bwriadol gan yr Urdd a dwi ddim yn ymwybodol bod yr Urdd cweit wedi llwyddo i adennill y tir yna efo pobl ifanc tu allan i'r gweithgareddau celfyddydol.

Y dyfodol

Mae'r her i'r Urdd yr un her ac sydd yn wynebu Llywodraeth Cymru a'i tharged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Hyd yn oed tase chi'n cael digon o ysgolion Cymraeg a'u bod yn gwybod be' i wneud, lle maen nhw'n mynd i ymarfer eu Cymraeg a sut mae eu cael nhw i ymarfer eu Cymraeg?

Yn amlwg mae gan yr Urdd brofiad ac mae ganddyn nhw le pwysig yn y strategaeth yna ond i hynny lwyddo mae rhaid i chi gael strategaeth o'r crud i'r bedd ac mae rhaid i honno fod yn glir a rhaid gwybod pwy sy'n gwneud be' achos mae'r cefn gwlad Cymraeg hwnnw oedd yr Urdd yn gallu dibynnu arno fo yn prysur grebachu.

Dyna'r her ond mae'r her honno yn sylfaenol i'r llywodraeth - ond dwi heb weld y strategaeth yna erioed, dim ond y targed.

Seren Haf MacMillan, sylfaenydd Aelwyd y Rhondda

Disgrifiad o’r llun,

Seren Haf Macmillan

Llwyddiannau

Yr eisteddfod. Fi'n credu bod y ffaith eu bod nhw'n rhoi cyfle i unrhywun allu perfformio neu gystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau nid yn unig yn rhoi'r profiad yna iddyn nhw, ond mae'n galluogi pobl i fagu'r hyder a rhoi cyfle iddyn nhw berfformio ar nifer o lwyfannau.

Ma' fe'n bendant wedi bod yn bwysig yn yr ardal yma o ran siarad Cymraeg tu allan i'r ysgol. Roedd y clybiau fel rhai chwaraeon neu glybiau ieuenctid yn tueddu i fod yn Saesneg ac roedd yr Urdd yn sicr yn hwb o ran y Gymraeg ac yn dod a chriw'r ysgol yn agosach at ei gilydd trwy'r ymarferion.

Heriau

Fi'n credu bod yr Eisteddfod wedi bod yn ardderchog ond fi'n credu gallen 'ne fod wedi bod mwy o glybiau. Mae mwy nawr ar gyfer cynradd, ond ar gyfer pobl yn eu harddegau fi'n meddwl petai mwy o glybiau'r Urdd yn yr adran hon bydde'n gyfle arall i siarad Cymraeg tu fas i'r ysgol.

Ma' angen clybiau trwy'r Gymraeg tu hwnt i'r Eisteddfod achos s'dim pawb efo diddordeb mewn perfformio.

Y dyfodol

Fi'n rili hoffi'r ffaith bod yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru a fi o blaid parhau gyda hynny yn y dyfodol. Fi'n credu bod e'n bwysig bod pob ardal yn cael cyfle i gynnal eisteddfod a fydd hwnnw'n rhoi hwb i'r ardal a bydden i fy hun ddim wedi gweld hanner Cymru pan o'n i'n ifancach oni bai am steddfod a ma' hwnnw wedi galluogi fi i ddeall Cymru yn well.

Felly falle datblygu meysydd eraill o fewn y gymuned bach yn fwy sydd angen ei wneud.

Jim O'Rourke, cyn brif-weithredwr yr Urdd

Ffynhonnell y llun, Cyfrannwr/Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Jim O'Rourke mewn Eisteddfod, a tra'n gweithio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog cyn dod yn brif weithredwr y mudiad

Llwyddiannau

Dros 100 mlynedd mae'r Urdd wedi llwyddo i adeiladu balchder yn ein pobl ifanc o'u cenedl a'u hiaith, a'u diwylliant, a drwy'r holl weithgareddau gweld mai eu diwylliant nhw ydi o. Dwi'n meddwl, er enghraifft, bod agor eu canolfan yng Nghaerdydd wedi profi hynny a'r Urdd wedi helpu gyda dinasyddiaeth gan roi'r cyfle i rai o'r gogledd a'r gorllewin i ymweld â'u prifddinas.

Mae Cymru wedi datblygu cymaint, a statws Caerdydd hefyd, gyda'r Senedd, a Chanolfan y Mileniwm, ac mae'r Urdd wedi chwarae rôl yn hynny ond falle nad ydi pobl wedi sylweddoli pa mor flaengar mae'r Urdd wedi bod yn y datblygiadau hynny dros y blynyddoedd.

Heriau

Mae sylfaen cryf gan yr Urdd yn y cymunedau ac felly dwi'n siŵr bod y mudiad wedi bod yn rhan o'r datblygiadau sydd wedi bod o fewn y system addysg, ond efallai roedd angen i'r Urdd wneud mwy gyda dysgwyr yn y blynyddoedd a fu. Mae'r rhod yna wedi troi rŵan gan fod y cyfleoedd i ddysgu Cymraeg ar gael ar draws y wlad erbyn hyn. Mae'r Urdd wedi pwyso am hynny ers blynyddoedd ond mae wedi cymryd amser i'r gyfundrefn addysg i ddal fyny gyda hynny.

Mae wedi cymryd amser i'r niferoedd o bobl sy'n dysgu Cymraeg i gyrraedd y niferoedd maen nhw nawr ond efallai bod yr Urdd wedi bod ychydig yn araf i gymryd y cyfleodd wnaeth godi oherwydd y twf mewn dysgu Cymraeg.

Y dyfodol

Yn y tymor byr, i ail-adeiladu yn dilyn ergydion Covid a Brexit.

Mae agor meddylfryd, rhoi cyfleoedd a gosod Cymru ar lefel rhyngwladol yn rhywbeth mae'r Urdd wedi gwneud erioed a bydd hynny'n fyw pwysig yn y dyfodol. Mae'r Urdd wedi stepio fyny yn ddiweddar wrth gwrs i helpu gyda ffoaduriaid o Afghanistan a Wcráin, fel mae wedi gwneud sawl gwaith yn y gorffennol.

Dyfodol hir dymor... jest i fod yn barod i edrych am y cyfleodd. Mae'r nod yr un peth ag erioed, sef i helpu ein pobl ifanc i ddatblygu yn ddinasyddion sy'n falch o'u gwlad a'u treftadaeth ac yn hyderus yn y byd modern.

Dilwyn Price, gwirfoddolwr ac ymddiriedolwr yr Urdd

Ffynhonnell y llun, Urdd/cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyd Gwobr John a Ceridwen i Dilwyn Price yn 2015, a bu'n arwain Jambori yr Urdd am flynyddoedd

Llwyddiannau

Un o'r llwyddiannau ydi gwerth yr Urdd fel mudiad i ddysgwyr. Roedd fy ngwaith i mewn ysgolion lle'r oedd Cymraeg fel ail iaith ac roedd cymaint o gyfleoedd yn yr Urdd i blant ddefnyddio eu hiaith a'u geirfa a dangos bod yr iaith yn fyw.

I blant ysgol Gallt Melyd, a Llywelyn yn Rhyl a Pen-y-bryn a Llandrillo-yn-rhos - roedden nhw'n gweld bod ni yn defnyddio'r iaith pan oedden ni'n mynd i'r gwersylloedd neu Eisteddfod neu gemau chwaraeon gyda'r Urdd ac roedd o'n fodd i ni hybu'r iaith a chadw'r iaith yn fyw.

Heriau

'Da ni o hyd yn edrych ar sut i wella neu ddysgu o beth wnaeth ddim mynd cystal ac edrych ar ein hunain yn feirniadol. Mae lle i wella bob tro ond alla i ddim dewis un peth.

Y dyfodol

Mae'n rhaid ymateb i sut mae'r byd yn newid.

Gyda Cymru'r Plant a llyfrau plant, mae'r Urdd wedi cael dylanwad aruthrol ar lenyddiaeth a phrint ac ati, ond mae'r gynulleidfa yn wahanol heddiw. Mae Twitter, Facebook a TikTok yn bwysig er mwyn i ni gyfathrebu gyda'r gynulleidfa a be' sy'n wych ydi bod staff yn defnyddio'r ffurf wahanol yma i ddenu plant a phobl ifanc i'r cyfleoedd sydd yn bodoli.

Allwn ni ddim jest disgwyl i ysgolion fod yn hwb. Mae pethau'n wahanol heddiw ac mae'n rhaid ymateb i'r sialensiau.

Ymateb yr Urdd

Fe wnaeth Cymru Fyw ofyn i'r Urdd am ymateb i sylwadau y pedwar.

Meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr y mudiad: "Wrth ddathlu 100 mlynedd o fodolaeth eleni, edrychai'r Urdd ymlaen yn hyderus i'r dyfodol gyda diolch i'n holl wirfoddolwyr, staff, partneriaid a chefnogwyr am eu dyfalbarhad i sicrhau fod y mudiad yn cynnig profiadau gwerthfawr, cyfoes a chwbl unigryw i blant a phobl ifanc Cymru."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig