Dioddefwr anorecsia yn erfyn am driniaeth arbenigol

  • Cyhoeddwyd
Amy EllisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r driniaeth mae Amy Ellis yn gobeithio amdani yn costio tua £7,500 yr wythnos

Mae dynes sy'n dioddef o anorecsia yn dweud y bydd hi'n marw heb gael mynediad i driniaeth arbenigol sydd ar hyn o bryd ond ar gael yn breifat yn Lloegr.

Mae Amy Ellis, o Frychdyn yn Sir y Fflint, wedi dioddef o anhwylderau bwyta ar hyd ei hoes.

Ond wedi cael gwybod na fyddai'r driniaeth yn cael ei ariannu gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae hi bellach yn ceisio codi'r miloedd o bunnau sydd ei angen i dderbyn y driniaeth yn breifat.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod pob bwrdd iechyd wedi derbyn arian i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta.

Diagnosis a gofal teulu

Cafodd Amy, sy'n 42 oed, ddiagnosis o anorecsia bedair blynedd yn ôl wedi i'w phwysau blymio, a bu'n rhaid iddi symud i mewn gyda'i rhieni er mwyn i'w mam allu gofalu amdani.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amy ddiagnosis o anorecsia bedair blynedd yn ôl wedi i'w phwysau blymio

Bellach mae'n rhaid i Amy, oedd yn gyn-weithiwr elusennol yn byw dramor ar gyfer ei swydd, ddefnyddio cadair olwyn neu ffon gerdded.

"Rydw i ar y pwynt marwolaeth nawr. Os nad ydw i'n cael help rydw i'n mynd i farw. Dyna lle mae hyn yn dod â chi os nad oes gennych chi help," meddai.

"Rydw i eisiau goroesi hyn. Rydw i'n haeddu byw. Mae pawb yn haeddu byw.

"Rwyf wedi bod gyda'r Gwasanaeth Iechyd ers 20 mlynedd. Gallan nhw ddim cynnig cymorth oherwydd does yna ddim cymorth."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy bellach angen cadair olwyn neu chymorth ffon i symud

Mae'r gofal y mae Amy ei eisiau yn cynnig cyfuniad o driniaethau, gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol a therapi tafodieithol, yn ogystal â chymorth dietegol a delwedd corff.

Ond mae'n breswyl ac yn breifat, gan gostio tua £7,500 yr wythnos.

Dywedodd Amy ei bod yn credu bod GIG Cymru wedi ariannu eraill yn ei sefyllfa hi i gael y driniaeth breifat, ond dywed iddi gael gwybod nad yw "yn ddigon sâl" a bod ganddi gynllun gofal sy'n ei helpu yn lleol.

'Tydi o ddim yn ddigon'

Ond dywedodd mam Amy, Lyn Ellis, nad oes unrhyw un a all helpu ei merch.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Amy gyda'i mam, Lyn

"Mae'n rhwystredig iawn, mae rhywun sydd â salwch gwahanol yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt," meddai.

"I bobl ag anhwylderau bwyta, maen nhw naill ai'n eu rhoi mewn uned seiciatrig neu'n eu rhoi ar ddrip i'w bwydo, ac yna i ffwrdd â chi... tydi o ddim yn ddigon.

"Mae'n torri fy nghalon i'w chlywed hi [Amy] yn y toiled yn crio. Dydw i ddim eisiau gwneud hyn bellach. Mae hi'n gwybod ei bod yn rhoi straen arni'i hun ac y gallai hynny fynd â hi."

Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru wella gwasanaethau anhwylderau bwyta, nid oes uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.

'Y gofal mwyaf priodol'

Dywedodd yr Athro Alberto Salmoiraghi o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw am driniaeth Amy oherwydd cyfrinachedd cleifion, ond dywedodd eu bod yn bwriadu cysylltu â hi i drafod ei phryderon.

Ychwanegodd yr Athro Salmoiraghi, y cyfarwyddwr meddygol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: "Rydym yn rhannu awydd Amy i sicrhau ei bod yn derbyn y gofal mwyaf priodol.

"Mae ein gwasanaeth anhwylderau bwyta oedolion arbenigol yn darparu triniaeth hynod arbenigol ar gyfer anhwylderau bwyta cymedrol i ddifrifol, ac mae'r triniaethau hyn yn cydymffurfio â chanllawiau NICE.

"Mae pob claf yn cael asesiad amlddisgyblaethol cynhwysfawr a chynllun triniaeth yn seiliedig ar eu hanawsterau unigryw. Gall hyn gynnwys cyfeirio at ddarparwyr arbenigol y tu allan i ogledd Cymru lle bo hynny'n glinigol briodol."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Amy mai ei breuddwyd yw gwella

Dywedodd Amy, sy'n dogfennu ei brwydr gyda fideos dyddiol ar TikTok - lle mae ganddi tua 25,000 o ddilynwyr - ei bod yn teimlo cyfrifoldeb enfawr o'u herwydd nhw.

"Mae'n anghredadwy, yr holl gefnogaeth o bob rhan o'r byd, gan ddioddefwyr, gan bobl nad oedd yn deall nad penderfyniad bywyd ydy hwn," meddai.

"Yr hyn sydd wedi bod yn anodd i mi yw gweld faint o bobl, nid yn unig o Gymru ond y DU gyfan, sy'n mynd trwy'r hyn rydw i'n mynd drwyddo, heb unrhyw gymorth."

Dywedodd mai ei breuddwyd yw gwella fel y gall ddod ag anhwylderau bwyta i'r blaen a helpu eraill.

"Nid mater o fagu pwysau yw hyn yn unig, fe allwch chi fod dros bwysau a dal i fod â meddwl sâl, meddwl anorecsig."