Adnoddau 'ysbrydoledig' am hanes pobl ddu i blant meithrin
- Cyhoeddwyd
"Rydyn ni'n gweld efo hanes pobl ddu yn aml mae lot fawr o ffocws ar hiliaeth a straeon o annhegwch.
"Efo'r adnoddau yma roedden ni wir eisiau ffocysu ar y pethau positif a'r pethau ysbrydoledig," medd Emily Pemberton.
Bydd adnoddau newydd i feithrinfeydd yn ceisio "llenwi bwlch gwybodaeth a dealltwriaeth" o ran hanes pobl ddu Cymru.
Mae Mudiad Meithrin yn gobeithio i'w adnoddau 'Cymru Ni' sbarduno sgyrsiau am hanes pobl ddu ac aml-ddiwylliannedd yng Nghymru gyda phlant y blynyddoedd cynnar.
"Mae'n bwysig i blant bach nid yn unig fod yn ymwybodol o hanes pobl ddu ond ei ddathlu hefyd," medd Ms Pemberton, awdur yr adnoddau.
Dywed Ms Pemberton wrth BBC Cymru Fyw fod yna "fwlch" o ran hanes pobl ddu ym meithrinfeydd ac ysgolion Cymru: "Dwi'n cofio hynny'n glir iawn o fy amser i yn y feithrinfa a'r ysgol."
Ei gobaith yw i'r adnoddau, fydd yn adrodd straeon pobl a digwyddiadau dylanwadol yn hanes Cymru, "roi hyder i ymarferwyr, gofalwyr a rhieni drafod yr hanes hynny gyda phlant bach".
Mae Ms Pemberton hefyd yn awyddus i'r adnoddau roi "gwell cydbwysedd" i blant bach o ran hanes pobl ddu Cymru.
"Yn amlwg mae annhegwch yn dod mewn i'r stori, ond nid dyna yw'r prif ffocws achos 'dyn ni ddim yn credu bod angen edrych ar y pethau negyddol trwy'r amser.
"Roedden ni wir eisiau dod mewn â'r pethau ysbrydoledig a hapus."
Cafodd yr adnodd cyntaf, sy'n adrodd hanes yr athletwr a'r cyflwynydd Colin Jackson, ei lansio'r wythnos ddiwethaf.
Bydd yr adnoddau yn cefnogi pwyslais y cwricwlwm newydd ar ddathlu hanes pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig fel elfen ganolog i hanes Cymru.
"Wrth i ni baratoi at y cwricwlwm newydd, roedd hi'n bur amlwg fod yna ddiffyg gwybodaeth o ran dealltwriaeth pobl o hanes pobl ddu Cymru," medd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies.
Dywedodd ei bod hi'n "bwysig iawn cynnal sgyrsiau gyda phlant bach," a'i bod hefyd yn gobeithio i'r pecyn annog sgyrsiau ymysg staff ac ymarferwyr.
'Straeon yn creu empathi'
"Popeth fi 'di dysgu am hanes ddu yng Nghymru, fi 'di dysgu ar ôl tyfu fyny," meddai'r awdur Nia Morais.
Bydd yr adnoddau newydd yn helpu plant du i deimlo eu bod yn perthyn mewn lleoliadau Cymraeg eu hiaith, meddai.
"Mae'n rili hawdd i deimlo'n unig os chi'n edrych mas mewn i gynulleidfa, neu chi'n edrych ar draws neuadd, a chi ond yn gweld un neu ddau wyneb du... felly ie, mae'n rili bwysig."
Dywedodd Ms Morais, a ysgrifennodd ddrama i blant sy'n adrodd hanes prifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, fod straeon yn arf arbennig er mwyn newid agweddau.
"Mae straeon yn mynd yn rili bell tuag at helpu pobl cael empathi ar gyfer pobl eraill. Chi methu deall rhywun arall nes eich bod chi'n dysgu am eu profiadau nhw a sut o'n nhw'n teimlo ar y pryd."
"Mae straeon yn rili helpu plant bach i fodelu sut i ymddwyn a be' i ddweud, ond hefyd maen nhw jyst yn helpu i ddangos ein bod ni i gyd yn bobl a bod angen i ni gael empathi am bobl eraill."
'Mae hanes pobl ddu yn hanes Cymreig'
Yn ôl yr awdur Jessica Dunrod, fuodd ynghlwm â datblygu'r adnoddau, mae'n rhaid i blant bach uniaethu gyda'u gwaith er mwyn dysgu'n effeithiol.
"Os nad ydw i'n gallu uniaethu gyda'r adnoddau sydd ar gael i mi, sut galla i wneud yn dda yn fy astudiaethau?
"Roeddwn i bob tro'n 'neud yn well pan o'n i'n gwneud fy ngwaith yn fwy personol, a phan o'n i'n ffeindio'r cysylltiad personol i'r gwaith - a dwi'n gwybod fod pobl eraill yn hefyd.
"Os dwi methu uniaethu efo'r adnoddau, mae'n rhaid i fi weithio hyd yn oed yn galetach i ddysgu unrhyw beth."
Mae Ms Dunrod, awdur y llyfr Dy Wallt Yw Dy Goron, eisoes wedi ymgyrchu i wella amrywiaeth llenyddiaeth Cymraeg i blant.
"Rydyn ni'n dysgu'r mwyafrif o'n gwersi bywyd ni yn ystod y blynyddoedd cynnar," meddai Ms Dunrod.
"Dwi'n credu bod angen i ni normaleiddio'r ffaith fod hanes pobl ddu yn hanes Cymreig".
"Does dim byd o'i le gyda dysgu pobl am bobl Cymraeg anhygoel, jyst oherwydd dydyn nhw ddim yn wyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn arwain y ffordd "fel y rhan gyntaf o'r DU i'w wneud yn hanfodol i ddysgu hanes pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig fel rhan o'n cwricwlwm newydd," a'u bod yn buddsoddi mewn adnoddau dysgu newydd i gefnogi athrawon i ddysgu'r hanesion hynny.
"Cafodd y cwricwlwm newydd ei lunio er mwyn ysbrydoli dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesol a deallus, gan helpu pobl ifanc i ddeall a pharchu eu diwylliannau a'u traddodiadau nhw eu hunain yn ogystal â rhai pobl eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2021
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2020