'Argyfwng' prinder athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol

  • Cyhoeddwyd
Ray Singh
Disgrifiad o’r llun,

Ray Singh: 'Angen trefniadau recriwtio tecach, a chyfleon mwy tryloyw'

Mae prinder athrawon o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt o "argyfwng", yn ôl cadeirydd Cyngor Hil Cymru.

Dywedodd y barnwr Ray Singh fod angen i Gymru fuddsoddi adnoddau sylweddol i "annog ein cymunedau i ymwneud mwy ag addysg a hyfforddi i fod yn athrawon".

Er mwyn i hyn ddigwydd dywedodd fod "angen trefniadau recriwtio tecach, a chyfleon tecach a mwy tryloyw o ran datblygiad gyrfa i'r ychydig yn y system addysg".

Ychwanegodd fod angen "mwy o athrawon a phrofiad o anghydraddoldeb hiliol er mwyn arwain y ffordd".

Mewn ymateb fe ddywedodd Jeremy Miles, y gweinidog addysg, fod "amrywiaeth ein cenedl yn un o'r asedau mwya' sy' gyda ni yng Nghymru ac mae'n hollol bwysig fod hynny yn cael ei adlewyrchu yn ein dysgu ni ac yn ein dosbarth".

Ond ychwanegodd: "Dy' ni ddim lle dyle ni fod."

Cyfeiriodd at adroddiad yr Athro Charlotte Williams ym mis Mawrth eleni, dolen allanol a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y sefyllfa o ran cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm newydd.

Dywedodd Mr Miles: "Yn wythnosau olaf y llywodraeth ddiwetha' fe wnaethom ni dderbyn pob un o 51 o argymhellion yr Athro Williams.

"Yn wythnosau cyntaf y llywodraeth newydd yma ry' ni wedi bod yn gweithio ar gynllun i weithredu hyn.

"Yr ydym wedi clustnodi cyllideb er mwyn i hyn ddigwydd a 'nghynllun i yn yr hydref yw cyflwyno strategaeth er mwyn recriwtio ymgeiswyr du ac o'r gymuned ethnig leiafrifol i mewn i'r gweithlu yn y dosbarth er mwyn sicrhau fod hyn yn adlewyrchu yr amrywiaeth cyfoethog yr ydym yn ein gweld o'n cwmpas."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Weles i fyth athro du," meddai Natalie Jones

Mae Natalie Jones o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin newydd gwblhau ei chwrs i hyfforddi i fod yn athrawes ac fe fydd hi yn dechrau ar ei swydd gynta' yn Ysgol Gymunedol Neyland y tymor nesa'.

Fe gafodd ei geni yn Birmingham i rieni o Jamaica cyn symud i Bwllheli yn naw oed.

Dywedodd fod prinder modelau rôl yn un rheswm posib am y prinder.

"Pan oeddwn i yn tyfu i fyny ac yn yr ysgol, weles i fyth athro du," meddai.

"Weithie' mewn rhai gyrfaoedd, os nad ydych chi'n gweld rhywun sy'n edrych yn debyg i chi'n g'neud y gwaith, dyw e ddim yn eich taro chi y gallwch chi 'neud y swydd yna."

Mae hi hefyd yn credu fod angen grantiau i helpu myfyrwyr o gefndir BAME i fynd i goleg neu'r brifysgol yn y lle cynta'.

Wrth edrych i'r dyfodol, mae hi'n hyderus: "Gyda'r arweiniad iawn gan Lywodraeth Cymru fe allwn ni newid pethe'."

Pynciau cysylltiedig