Cyngor banciau bwyd i staff y GIG yn 'anghrediniol'

  • Cyhoeddwyd
Banc bwydFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweithiwr yn y gwasanaeth iechyd wedi disgrifio teimlo'n "drist" ac "anghrediniol" wedi i reolwyr anfon ebost at staff yn rhoi cyngor ar sut i gael cymorth banciau bwyd.

Cafodd yr ebost am yr argyfwng costau byw ei anfon gan PCGC - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, sy'n rhoi cefnogaeth logistaidd i'r gwasanaeth iechyd ar draws Cymru - at ei holl staff ym mis Gorffennaf.

Dywedodd yr aelod staff bod "gwybod bod pobl yn dioddef, a ninnau'r cael ei adael i ddygymod â'r peth... mae'n adlewyrchiad trist".

Mae PCGC yn dweud nad oedd bwriad i beri tramgwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi codiad cyflog i weithwyr GIG yng Nghymru, gyda'r rheiny ar y graddau isaf yn derbyn £1,400 yn fwy.

'Teimlo'n hollol styc'

Dywedodd y gweithiwr, sy'n dymuno aros yn ddienw, wrth BBC Cymru bod y codiad "yn gam i'r cyfeiriad cywir" ond "dwi ddim yn gwybod faint o help fydd o, o ystyried sut mae chwyddiant yn codi".

"Dwi methu dechrau byw o ddifri' ar fy nghyflog presennol," meddai. "Dwi'n teimlo'n hollol styc."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gweithiwr a siaradodd gyda BBC Cymru bod yr ebost yn siom, a bod staff yn "cael eu gadael i ddiodde' ar ôl rhoi gymaint o'u hamser ac egni at helpu eraill"

Dywedodd yr ebost, dan y teitl Financial Well-being Support: "Mae pethau'n anodd i lawer ohonom, gyda'r argyfwng costau byw."

Mae'n cynnwys cyngor arbed arian i rieni er mwyn "goroesi'r gwyliau ysgol" ac yn rhoi gwybodaeth am y wefan Helpwr Arian, dolen allanol, cyn ychwanegu: "Mae yna hefyd wybodaeth am sut i gael cymorth banc bwyd."

Ar ddiwedd yr ebost, mae manylion cyswllt sawl corff sy'n rhoi cyngor ar ddefnyddio banciau bwyd, gan gynnwys rhestr o leoliadau ar wefan elusen Trussell Trust.

Disgrifiad o’r llun,

Yr ebost a gafodd ei yrru at staff GIG Cymru ar 13 Gorffennaf

Mae PCGC yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gweinyddol ar gyfer byrddau iechyd ar draws Cymru, gan gynnwys gwasanaethau caffael, archwilio a chefnogaeth cyflogaeth.

Dywedodd yr aelod staff bod yr ebost yn teimlo'n "gam gwag" wedi iddyn nhw wneud cymaint o waith ychwanegol yn ystod y pandemig.

Disgrifiodd yr ymateb cyntaf o ddarllen yr ebost: "Ro'n i'n drist bod pobl yn stryglo gymaint nes bod dim dewis arall i ni ond mynd i'r banciau bwyd.

"Ro'n i'n eitha' anghrediniol hefyd y bydde pobl yn cael eu gadael i ddiodde' ar ôl rhoi gymaint o'u hamser ac egni at helpu eraill."

'Dim syndod'

Dywedodd Hugh McDyer, pennaeth iechyd undeb Unsain Cymru, bod "dim syndod" bod cyngor o'r fath yn cael ei roi, a bod yr undeb wedi gweld "cynnydd cyflym" mewn adroddiadau bod gweithwyr yn byw mewn tlodi ac aelodau'n cael trafferth talu biliau.

"Mae'n ddiwrnod trist pan mae ein haelodau'n gorfod dewis rhwng cynhesu'r cartref neu fwyta, neu fynd i fanc bwyd i sicrhau bod y teulu'n bwyta," meddai.

Dywedodd hefyd bod argymhellion corff adolygu cyflogau'r GIG, a gafodd eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, "yn syml, yn annigonol".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd llefarydd ar ran PGCG: "Cafodd cyfathrebiad mewnol ar y thema iechyd a lles ei ddosbarthu i staff PGCG ar 13 Gorffennaf 2022, mewn ymateb i gyfres o gwestiynau gan ein staff."

Roedd hwnnw, meddai, yn cynnwys "cyfeiriad bychan" at sut i gael cymorth banc bwyd.

Ychwanegodd bod PGCG yn cydnabod "gwaith caled ac ymroddiad anhygoel ein staff o ddydd i ddydd" a bod dim bwriad "i beri tramgwydd ond yn hytrach i roi gwybod am yr amrywiaeth eang o gefnogaeth sydd ar gynnig".

Streicio yn bosib

Mae cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf ynghylch codiadau cyflog ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus sy'n is na chwyddiant wedi cythruddo undebau llafur.

Mae rhai, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) wedi dweud bod bwriad i gynnal pleidlais ymhlith aelodau ynghylch gweithredu diwydiannol posib.

Mae meddygon, ymgynghorwyr, meddygon teulu a nyrsys yng Nghymru yn cael cynnig codiad rhwng 4% a 5.5%.

Bydd gweithwyr eraill o fewn y GIG, gan gynnwys glanhawyr a phorthorion, yn derbyn codiad o 7.5% ar gyfartaledd.

Mae disgwyl i ddau undeb llafur addysg gynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol hefyd wedi i athrawon dderbyn cynnig codiad cyflog sy'n is na chwyddiant.

Pynciau cysylltiedig