'Helo Osian, Elton sy' 'ma'
- Cyhoeddwyd
Osian yn siarad gyda Catrin Heledd o Adran Chwaraeon BBC Cymru
Mae'r taflwr morthwyl o Gaernarfon, Osian Dwyfor Jones, yn brysur yn gwneud y paratoadau terfynol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.
Bydd y cyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen yn taflu'r morthwyl ar ddydd Iau 4 Awst, ac yna'n gobeithio mynd ymlaen i'r rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 6 Awst. Mae Osian hefyd yn gyd-gapten ar dîm athletau Cymru gyda Olivia Breen.
'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau': bob nos am 22:00 ar S4C yn ystod y gemau.
Y llynedd fe ddywedodd Osian ei fod yn aelod o'r gymuned LHDTQ+, ac ym mis Ebrill eleni fe siaradodd yn agored am y tro cyntaf am ei rywioldeb mewn podlediad i'r BBC.

Torrodd Osian record daflu morthwyl Cymru gyda'i berfformiad personol gorau, 73.89m.
Y diwrnod wedi iddo drafod hyn ar y podlediad fe gafodd Osian alwad ffôn annisgwyl, gan un o gantorion enwoca'r byd, Elton John.
Mewn cyfweliad gyda Catrin Heledd ar gyfer y rhaglen 'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau' fe soniodd Osian am y dydd pan gafodd yr alwad.
"Es i am goffi efo ffrind yn y p'nawn a wedyn dyma'r ffôn yn mynd a nes i ateb o - 'Hello Osian, it's Elton' medda' fo."

Osian yn cystadlu yn y Gemau yn Glasgow yn 2014.
Doedd Osian ddim yn siŵr iawn sut i ymateb i siarad ag Elton John, fel esbonia: "O'dd o fatha ryw out of body experience, o'n i ddim yn siŵr iawn be oedd yn digwydd.
"'Nath o ofyn i fi sut oedd yr ymateb [i'r podlediad] a sut oedd yr ymarfer yn mynd."
Ydy hyn yn golygu bod gan Osian rif Elton yn ei ffôn? "Ella" meddai Osian gan chwerthin.

Roedd Osian yn 7fed yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn Awstralia ac mae'n gobeithio gwella ar hynny eleni.
Mae Osian yn rhan o dîm o 199 o athletwyr fydd yn cynrychioli Cymru yn Birmingham - 100 o fenywod a 99 o ddynion.
Y gobaith ydy y bydd Cymru yn gallu gwella ar y canlyniadau o gemau 2018, ble enillodd y tîm 10 o fedalau aur.

Hefyd o ddiddordeb: