Gemau'r Gymanwlad: 'Braint bod yn gapten' medd Anwen Butten

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anwen ButtenFfynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones

Wedi anaf a "cholli hyder", dywed Anwen Butten o Lanbedr Pont Steffan ei bod hi'n llawn cyffro i fod yn gapten Cymru wrth i Gemau'r Gymanwlad agor yn Birmingham.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y bowliwr lawnt, 49, ei bod "methu aros" i'r gemau ddechrau, a'i bod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at arwain tîm sydd â dros 200 o athletwyr.

O ran y tîm eleni, Meghan Willis, 14, yw'r ieuengaf - fe fydd hi'n nofio yn y paragemau ac yn ystod y 12 mis diwethaf mae amserau'r nofwraig o Gwmbrân wedi cyflymu cryn dipyn.

Mae 'na bedair set o frodyr a chwiorydd yn y tîm - Megan ac Elinor Barker (seiclo), Joe a Hannah Brier (athletau), yr efeilliaid Ioan a Garan Croft (bocsio) a Tesni ac Emyr Evans (sboncen).

Mae'r brodyr Croft, 20, o Grymych, Sir Benfro wedi bod yn bocsio yn llawn amser ers yn 17.

Dyma fydd y chweched tro i Ms Butten - sydd hefyd yn nyrs arbenigol yn trin cleifion â chanser - gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.

"Fi'n teimlo'n gyffrous i fod unwaith eto yn cynrychioli Cymru yn y bowlio," meddai.

"Flwyddyn yn ôl o'n i ddim yn meddwl y bydden i'n cael fy newis, ar ôl llawdriniaeth a chael pen-glin newydd.

"Ar ôl cael trafferthion gyda fy mhen-glin, nes i golli hyder ond wedi i fi weithio yn galed ar fy ngêm, fi wedi cael yr hyder 'nôl. Fi mor gyffrous a methu aros.

"I fod yn gapten ar yr holl dîm - dros gymaint o athletwyr arbennig - mae yn fraint ac anrhydedd enfawr i fi."

"Fi just yn mynd i fod yn fi fy hunan", ychwanegodd.

"Fel ma' pobl sydd yn 'nabod fi yn gwybod fi yn eithaf chilled rhan fwyaf or amser.

"Rwyf yn edrych mlaen i gefnogi pawb ond hefyd yn gwybod bod y gwaith caled wedi 'neud a bydd angen 'neud siŵr bod y neges yn glir i bawb ganolbwyntio ar y perfformiad nesa'. Fi wastad yn 'neud popeth â gwên ar fy wyneb."

Ffynhonnell y llun, TimCymru
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Iau roedd yna gyfle i ni gael golwg ar wisg swyddogol y tîm, sydd wedi eu dylunio gan Julian MacDonald

Mae chwarae bowls wedi bod yn rhan o fagwraeth Anwen Butten - gyda'i rhieni yn chwaraewyr brwd a bellach y plant, ac mae yna lawer o gefnogaeth iddi yn ei hardal enedigol yng Ngheredigion.

"Rwyf wedi bod yn ffodus i gael cefnogaeth pobl Cellan, Llanbed, Ceredigion a thu hwnt dros y blynyddoedd," ychwanegodd.

"Hefyd mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda a fy nghydweithwyr wedi bod yn grêt ac wrth gwrs mae yna diddordeb mawr gyda'r cleifion ond y gefnogaeth yn arbennig."

Yn 2018 daeth Tîm Cymru â 36 o fedalau yn ôl o Arfordir Aur, Awstralia, gan orffen yn seithfed yn y tabl, a sicrhau'r gemau mwyaf llwyddiannus erioed.

A mynd cam ymhellach ydy'r nod eleni, meddai Ms Butten.

"Wrth gwrs Yr Arfordir Aur o'dd y gemau gorau i Gymru - felly byddai trio gwella eto ar hwnna yn wych."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd aelodau Tîm Cymru eu croesawu yn y Senedd wedi eu llwyddiant yn 2018

Ychwanegodd: "Gemau Manceinion 2002 oedd y gorau i fi - rhain oedd y gemau cyntaf ac fe ges i fedal efydd.

"Pinacl gyrfa rhywun i ddweud y gwir yw cael cynrychioli Cymru yn y gemau a rhoi crys Cymru arno.

"Mae'n fraint bod yn rhan o deulu Tîm Cymru yn y gemau a ni gyd mor lwcus i gael cynrychioli y wlad orau yn y byd."

Newid delwedd

Dywedodd hefyd ei bod yn fach bod delwedd bowlio lawnt wedi newid, a bod y gamp yn denu y genhedlaeth iau.

"Mae gêm bowls yn draddodiadol i hen fobl ond ma'r ddelwedd wedi newid tipyn bellach.

"Pan welwch chi bowls yn y gemau fyddwch yn gweld y kit lliwgar, y bowls lliwgar a thipyn o gyffro a sŵn.

"Mae yna lawer mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan nawr sydd yn grêt."

Ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol fe fydd Anwen Butten yn cael ei hurddo i'r wisg las a hynny am ei chyfraniad i'r byd bowls am gyfnod o dros 30 mlynedd.