Osian Jones: Athletwr yn teimlo 'rheidrwydd' i drafod ei rywioldeb

  • Cyhoeddwyd
Osian JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae athletwr o Wynedd wedi dweud iddo deimlo "rheidrwydd" i drafod ei rywioldeb am y tro cyntaf, gan nad oes digon o'i gyfoedion wedi gwneud yr un peth.

Mae'r taflwr morthwyl Osian Dwyfor Jones, sydd heb roi label ar ei rywioldeb, wedi datgan ei hun fel aelod o'r gymuned LHDTQ+.

Yn gyn-ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, mae'r athletwr 28 oed wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 a 2018, gan hefyd dorri record Cymru yn 2017.

Ar ôl dod allan i'r rhai oedd yn agos ato y llynedd, cynigodd Osian siarad yn gyhoeddus am ei rywioldeb am y tro cyntaf ar bodlediad LGBT Sport y BBC.

'Homoffobia mewnol'

"Dwi'n berson eitha' preifat ar y cyfan, ond dwi isio i bobl yn y gymuned wybod fy mod i hefyd yn rhan ohono - ac mae gwneud rhywbeth fel hyn yn dda ar gyfer fy hyder ac i allu symud ymlaen," dywedodd ar y podlediad.

"Ddois i allan y llynedd ac roeddwn i'n ei chael hi'n amser anodd iawn, iawn.

"Roeddwn i wir yn cael trafferth ac yn gorfod gweithio lot arno, ond yn teimlo fy mod wedi dod allan yr ochr arall erbyn hyn.

"Roeddwn i'n teimlo fod hi'n wirioneddol bwysig cyfrannu yn yr ystyr o fod yn weladwy am y peth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Osian yn cystadlu yn ei Gemau Gymanwlad cyntaf yn 2014

Dywedodd fod dod i delerau â'i rywioldeb wedi cymryd amser yn ogystal ag egni emosiynol.

"Sylweddolais fy mod yn delio â llawer o homoffobia mewnol, ac nad oeddwn yn iawn hefo'r syniad o beidio bod yn strêt," meddai.

"Wnes i wylio llwyth o fideos am bobl yn dod allan ar YouTube a gwrando ar lawer o bodlediadau, ac mae pawb yn dweud pa mor anhygoel mae'n teimlo ar ôl dod allan - ond ches i ddim y teimlad yna o gwbl.

"I fod yn onest, oherwydd na chefais hynny, wnes i ddim siarad amdano o gwbl.

"Roeddwn i'n ceisio cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, ac oherwydd nad oeddwn i wir yn bod yn agored ac yn onest ynglŷn â sut roeddwn i'n teimlo, fe wnes i dwll i fi fy hun.

"Doeddwn i ddim eisiau ymarfer mewn gwirionedd. Doedd ddim ots gen i bryd hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Osian Jones: "Pan fyddwch chi'n dod allan, yn gyffredinol dydi pobl ddim yn gofyn sut da chi'n teimlo amdano"

Gyda thri digwyddiad mawr o'i flaen eleni, bydd yn cystadlu am y tro cyntaf fel rhan o'r gymuned LHDTQ+.

A dywedodd bod hynny'n "reswm arall pam roeddwn i'n teimlo rheidrwydd i rannu fy stori".

"Dwi dal ddim yn teimlo, hyd yn oed rŵan, bod yna unrhyw athletwyr allan mewn gwirionedd.

"Mae'n debyg, yn y digwyddiadau taflu, bod pethau'n eitha' gwrywaidd ac alpha male, a tydw i ddim, a dwi'n meddwl fod hi'n bwysig bod yn onest ac yn weladwy - yn enwedig gan fy mod wedi defnyddio cymaint o brofiadau pobl eraill i'n helpu.

"Dwi'n mwynhau fy hyfforddi a chystadlu yn fawr, ac yn edrych ymlaen at sut y bydd yr hyder yma yn effeithio ar fy mherfformiad - ac yn bersonol, dwi'n dda iawn ac yn hapus.

"Oherwydd mod i wedi casáu pob eiliad o'r tymor diwethaf, fe berodd i mi sylweddoli beth sy'n wirioneddol bwysig.

"Dwi just isio trio mwynhau'r un yma - mynd allan yna a thaflu'r goreuon personol a chael tymor da iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Osian Jones yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018

Yn dilyn blynyddoedd o deimlo'n ansicr, dywedodd ei fod bellach wedi cael cefnogaeth "anhygoel".

"Wnes i siarad gyda llwyth o bobl o'r gymuned oedd yn hyfryd a chefnogol.

"Daeth fy ffocws ar ddeall y diwylliant a chael cymaint o gyngor ag y gallwn gan y bobl yn fy mywyd - a dwi wedi cael llawer o sgyrsiau agored a gonest gyda nhw, fy nheulu a fy ffrindiau, ac maen nhw wedi bod yn anhygoel.

"Sylweddolais hefyd fy mod yn ffodus iawn i allu dweud hynny, oherwydd dwi ddim wedi cael unrhyw ymateb negyddol i ddod allan.

"Mewn rhai agweddau, roedd yn teimlo fel y peth mwyaf llethol i mi ei wneud erioed, oherwydd fe wnes i ei chwarae i fyny a dod mor paranoid - ac yna da chi'n ddeud o ac yn teimlo'n well yn syth oherwydd eich bod chi wedi'i ddweud."

Pynciau cysylltiedig