Adran Dau: Casnewydd 2-3 Salford

  • Cyhoeddwyd
Richard Nartey o dîm Salford yn taclo Scot BennettFfynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Richard Nartey o dîm Salford yn taclo Scot Bennett

Er gêm gyffrous, mae dechrau siomedig Casnewydd i'r tymor newydd yn parhau wedi iddyn nhw golli i Salford City yn Adran Dau.

Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner. Roedd Luke Bolton (54) wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i amddiffynnwr yr Alltudion, Cameron Norman (57) estyn y bwlch trwy rwydo i'w gôl ei hun.

Llwyddodd y tîm cartref i daro'n ôl pan gysylltodd Scot Bennett â chic gornel a sgorio wedi 72 o funudau, a chwta dri munud yn diweddarach roedd Omar Bogle hefyd wedi rhwydo i unioni'r sgôr.

Ond aeth yr ymwelwyr ar y blaen eto pan beniodd Ryan Leak (83) y bêl i'r rhwyd gan sicrhau'r fuddugoliaeth a'r triphwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd wedi colli gartref am y seithfed tro yn olynol, sy'n torri record y clwb.