Adran Dau: Casnewydd 2-1 Tranmere Rovers

  • Cyhoeddwyd
Josh Dacres Cogley (Tranmere) yn herio Thierry NeversFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Thierry Nevers, yn ei ymddangosiad cyntaf i'r Alltudion, yn cael ei herio gan Josh Dacres Cogley, o Tranmere

Mae Casnewydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn nhymor newydd Adran Dau yn erbyn Tranmere Rovers yn Rodney Parade.

Yr ymwelwyr wnaeth sgorio gyntaf pan aeth croesiad Paul Lewis oddi ar amddiffynnwr yr Alltudion, Aaron Lewis ac i fewn i'r rhwyd (23).

Daeth Nathan Moriah-Welsh (29) â'r gêm yn gyfartal cyn i Omar Bogle (38) roi'r fantais i'r tîm cartref o'r smotyn wedi trosedd ar James Clarke.

Ar ôl bachu triphwynt cyntaf y tymor, mae Casnewydd wedi codi o'r 23ain i'r 19fed safle yn y tabl.