Plant 'mewn peryg' oherwydd bylchau gofal asthma
- Cyhoeddwyd
Mae yna ofnau bod yna fylchau pryderus yng ngofal plant sydd ag asthma yng Nghymru.
Yn ôl astudiaeth elusen Asthma + Lung UK Cymru ymhlith meddygfeydd mae nifer o blant mewn peryg o orfod mynd i ysbyty wedi iddynt gael pwl o asthma oherwydd nad oes yna ofal sylfaenol ar eu cyfer.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd disgwyl i fyrddau iechyd ystyried canlyniadau'r archwiliad a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
'Ymladd am anadl'
Mae mab Gemma Perkins, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn dioddef o asthma ac wedi bod yn yr ysbyty dros 15 o weithiau ers 2018.
Yn ôl y fam 36 oed, mae angen mwy o wybodaeth a chefnogaeth i sicrhau bod asthma ei mab, Ethan, yn cael ei reoli a'i fod yn gallu osgoi ymweliadau â'r ysbyty.
"Dechreuodd Ethan gael symptomau asthma, fel gwichian a diffyg anadl pan yn ddwy oed," meddai.
"Ar un adeg, roedd ei byliau o asthma mor ddrwg fel ei fod yn cael ei gadw yn yr ysbyty bob mis am ddau ddiwrnod ar y tro.
"Yn Nhachwedd 2021 roedd e yn yr ysbyty ond wnaeth e ddim ymateb i driniaeth.
"Dyna'r peth mwyaf brawychus rydyn ni wedi bod drwyddo fel teulu. Dwi byth eisiau gweld Ethan yn ymladd am ei anadl eto."
"Rwy'n deall bod meddygon teulu dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pawb ag asthma yn cael yr help sydd ei angen arnynt, fel bod pobl yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i reoli eu cyflwr.
"Mae apwyntiadau ac archwiliadau rheolaidd yn bwysig iawn i'w gadw'n ddiogel ac yn iach."
'Cyflwr di-rybudd'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y meddyg teulu Dr Eilir Hughes o Nefyn, bod y cyflwr yn gallu bod "yn ddychrynllyd".
"Mae'n ofnadwy i rieni weld eu plant felly, mae'n gallu taro'n ddi-rybudd ac yn gyflym iawn.
"Mae'n gyflwr sydd angen ei gymryd o ddifrif," ychwanegodd.
Fe bwysleisiodd pa mor bwysig yw mynd i'r feddygfa pan fo apwyntiad wedi ei drefnu a sicrhau bod rhieni a phlant yn gwybod sut i ddefnyddio pwmp asthma.
"Fydda i'n gorfod atgoffa pobl i arafu lawr sut maen nhw'n cymryd yr anadl a'r gwynt... a sicrhau bod gyda nhw ddigon o bympiau."
Fe rybuddiodd y gallai meddygon teulu weld mwy o achosion o asthma wrth i dymor y gaeaf nesáu.
"Wrth i ni symud ymlaen falla' at y gaea', 'dan ni'n gwybod nid jyst y feirws sydd yn achosi pylia' o asthma.
"Mae o'n rhywbeth pwysig iawn 'dan ni'n edrych arno fo."
Rheolaeth
Nod y rhaglen sy'n cael ei harwain gan Goleg Brenhinol y Ffisegwyr yw gwella ansawdd gofal, gwasanaethau a chanlyniadau clinigol i bobl â chyflyrau'r ysgyfaint.
Yn ôl yr arolwg mae gan 59,000 o blant yng Nghymru asthma, sef cyflwr ysgyfaint difrifol a all achosi symptomau fel peswch, gwichian, teimlo'n fyr o anadal neu frest dynn.
Mae angen rheoli asthma, hyd yn oed os yw pobl yn teimlo'n iach, i leihau'r risg o symptomau a phyliau all fod yn fygythiad i fywyd.
Fe wnaeth yr elusen ddadansoddi data o 314 (80.7%) o feddygfeydd yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a 31 Gorffennaf 2021, gan ddarganfod mai:
Dim ond 22% o blant dderbyniodd gynllun gweithredu asthma personol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Gyda'r ffigwr mor isel â 13.2% yng Nghwm Taf)
Dim ond chwarter (24.9%) o blant ag asthma yng Nghymru a welodd eu techneg mewnanadlu yn cael ei hadolygu, sef rhan allweddol o hunanreoli'r cyflwr.
Dim ond traean o blant gafodd ddiagnosis o asthma yn ddiweddar sydd â record o dderbyn profion i gadarnhau hyn - sef hanner y lefel yn 2020.
'Mae plant wedi'u gosod o'r neilltu'
Dywedodd Joseph Carter, Pennaeth Asthma + Lung UK Cymru, bod canfyddiadau'r arolwg yn "amlygu bylchau pryderus yng ngofal asthma plant".
"Mae Covid-19 wedi cyflwyno heriau enfawr i'r GIG ac i blant ag asthma ac mae tarfu ar eu gofal asthma arferol yn un canlyniad allweddol.
"Mae plant wedi'u gosod o'r neilltu ac mae rhieni wedi'u gadael i hunanreoli heb gynllun gofal priodol yn ei le. Mae angen newidiadau mawr i amddiffyn ysgyfaint bach," meddai.
Ychwanegodd bod yn "rhaid i ni godi disgwyliadau rhieni, fel eu bod nhw'n cael y gefnogaeth, y wybodaeth gywir ac yn derbyn hyn ar yr amser iawn.
"Mae meddygon teulu a nyrsys yn chwarae rhan enfawr wrth sicrhau bod plant ag asthma yn cael y gofal sylfaenol i sicrhau y gallant fyw'n dda a rheoli eu cyflwr.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i archwiliad NACAP drwy sicrhau bod pawb ag asthma yn cael cymorth i reoli eu cyflwr.
"Gallai methu â gweithredu nawr roi mwy o fywydau mewn perygl."
Byrddau iechyd i 'ystyried y canlyniadau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau i blant ag asthma.
"Mae gan y rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu nyrs asthma a byddem yn annog rhieni plant ag asthma i gysylltu â'u meddyg teulu i wneud yn siŵr eu bod yn cael adolygiad asthma.
"Disgwyliwn i fyrddau iechyd ystyried canlyniadau'r archwiliad hwn a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu cyflwr ac atal derbyniadau diangen i'r ysbyty.
"Yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd Anadlol, a fydd yn nodi'r safonau gofal y gall pobl ddisgwyl eu derbyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2021