Adran Dau: Casnewydd 0-2 Grimsby

  • Cyhoeddwyd
GrimsbyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Grimsby yn dathlu gôl gynta'r gêm gan Bryn Morris

Fe barhaodd dechrau sigledig Casnewydd i'r tymor brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Grimsby yn Rodney Parade.

Daeth gôl gynta'r gêm i'r ymwelwyr ar ôl 63 munud, wrth i ergyd Bryn Morris ganfod cornel isa'r rhwyd.

Gyda 10 munud yn weddill fe lwyddodd Grimsby i selio'r fuddugoliaeth gyda gôl gan Harry Clifton.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn disgyn un safle i 17eg yn Adran Dau ar ôl saith o gemau.