Y Cymro yn Gemau Olympaidd gwaedlyd Munich 1972
- Cyhoeddwyd
50 mlynedd yn ôl ar Fedi 5, 1972 cafodd 11 o athletwyr tîm cenedlaethol Israel eu dal yn wystlon yn Gemau Olympaidd Munich. Ddiwrnod yn ddiweddarach roedd yr 11 athletwr, pum terfysgwr, a heddwas o Orllewin yr Almaen wedi eu lladd.
Aelodau o'r Black September Group o Balesteina oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad. Roedden nhw yn gysylltiedig â Sefydliad Rhyddid Palesteina a'u targed oedd dal yr athletwyr yn wystlon ym mhentref yr athletwyr a gorfodi Israel i ryddhau 236 o garcharorion.
Mi fethodd y cynllun ond roedd ei arwyddocâd yn enfawr. Dyma oedd y tro cyntaf erioed i ddigwyddiad terfysgol gyrraedd cynulleidfa ryngwladol yn ystod darllediad byw a, gyda miliynau yn gwylio, fe newidiodd pethau am byth.
Mae un dyn o Gymru sy'n cofio'r digwyddiad yn iawn ac nid atgof sgrin deledu mohoni, ond atgof o fod yn y fan a'r lle.
Roedd y codwr pwysau Ieuan Owen o Gaernarfon ym mhentref yr athletwyr ar y pryd yn profi un o benodau tywyllaf erioed y Gemau.
"Dwi'n cofio bywyd yn y pentra' yn cael ei newid yn gyfan gwbl efo'r heddlu yn dod i mewn efo'r gynnau, machine guns, armoured vehicles ac yn y blaen," meddai Ieuan, wnaeth hefyd gynrychioli Cymru yn Gemau'r Gymanwlad bum gwaith.
"Roedd gan bawb ofn… Roedd 'na sefyllfa hostage yno efo'r Israelis. Roedd y Black September Guerrilla Group wedi dod i mewn i'r pentra' lle roeddan ni'n aros a chymryd hostages."
O'r 11 athletwr, hyfforddwyr a reffari o Israel a gafodd eu lladd roedd pedwar ohonyn nhw yn godwyr pwysau ac mi fuodd Ieuan yn treulio amser yn eu cwmni cyn y digwyddiad.
"Codwyr pwysau oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Aeth y grŵp i mewn i'r ardal lle oeddan nhw yn aros. Roedd un ohonyn nhw yn yr un dosbarth ag o'n i yn cystadlu ac roedd 'na un oedd yn reffari yn y dosbarth lle o'n i'n codi pwysau.
"Roedd hyn wedi digwydd bron tuag at ddiwedd y Gemau. O'n i wedi gorffen cystadlu pan ddigwyddodd o. Mi ddaru'r chwaraeon gael eu gohirio am ddiwrnod. Roeddan nhw wedi gwneud gwasanaeth i gofio am y rhai gafodd eu lladd."
Arwyddocâd
Gwraidd yr ymosodiad y diwrnod hwnnw oedd y gwrthdaro hanesyddol rhwng Israel a Palesteina.
Fe roddodd y digwyddiad erchyll sylw newydd i achos y Palesteiniaid a'r dros filiwn ohonynt oedd wedi bod yn ffoaduriaid ers cread Israel yn 1948 a'r rhyfeloedd wnaeth ddilyn.
Y gred hefyd yw bod y digwyddiad wedi nodi oes newydd i derfysgaeth gyda grwpiau terfysgol yn gweld cyfle i fanteisio ar y sylw a ddaw gan deledu byw.
Yn dilyn hyn fe newidiodd y ffordd roedd llywodraethau'r gorllewin, yn bell cyn ymosodiadau 9/11, yn ystyried bygythiad terfysgaeth gyda nifer o lywodraethau fel y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen a'r Unol Daleithiau, yn creu lluoedd arbennig.
Gallwch glywed mwy o hanesion Ieuan Owen yma.
Hefyd o ddiddordeb: