Adran Dau: Casnewydd 0-2 Barrow
- Cyhoeddwyd
Roedd Barrow yn dod i Gasnewydd ddydd Sadwrn yn hyderus, yn drydydd yn y gynghrair, gyda Chasnewydd yn brwydro i ddarganfod llif yn eu chwarae.
Roedd hi'n gymharol gyfartal drwy'r hanner cyntaf ac er i gynigion Casnewydd gael eu harbed oddi ar linell y gôl ddwywaith aeth Barrow ar y blaen yn y munudau olaf.
Cododd Harrison Neal y bêl dros yr amddiffyn i lwybr Josh Gordon sydd yn rhwydo ag ergyd troed dde.
Daeth ail gôl i Barrow ac i Josh Gordon gyda chic o'r smotyn wedi i Hayden Lindley droseddu yn y blwch cosb.
Prin oedd ymosodiadau y tîm cartref a Barrow oedd yn rheoli'r chwarae.
Y tîm oedd yn drydydd aeth gartref gyda thri phwynt gyda Chasnewydd yn chwilio am gyd-chwarae gwell wedi iddyn nhw golli gêm arall.