Adran Dau: Casnewydd 1-1 Caerliwelydd
- Cyhoeddwyd

Nathan Moriah-Welsh yn dathlu'i gôl yn ystod yr hanner cyntaf
Daeth rhediad Casnewydd o bedair colled yn olynol i ben diolch i gêm gyfartal brynhawn Sadwrn.
Roedd Nathan Moriah-Welsh wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf yn dilyn gwaith da gan Thierry Nevers.
Ond yn hwyr yn yr ail hanner fe sgoriodd yr ymwelwyr gyda Corey Whelan yn darganfod cefn y rhwyd wedi cic gornel.
Er hynny mi fyddai wedi gallu bod yn waeth i'r Alltudion.
Ond er mawr ryddhad y cefnogwyr cartref ar Rodney Parade, taro'r trawst wnaeth foli hwyr Paul Huntington gan orfodi Caerliwelydd i fodloni ar bwynt yn unig.