Adran Dau: Swindon 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Luke JephcottFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Luke Jephcott yn dathlu'i gôl wedi 51 munud

Cymro oeddd yn gyfrifol am dranc Casnewydd wrth i Luke Jephcott rwydo unig gôl y gêm.

Daeth hwnnw wedi 51 munud wrth i ymosodwr tîm dan-21 Cymru sicrhau'r triphwynt i'w glwb.

Cadwyd golwr Swindon, Solomon Brynn, yn brysur gan iddo wneud dau arbediad da yn dilyn ymdrechion gan Omar Bogle.

Daethu cyfle gorau'r Alltudion tua'r diwedd, ond rhwystrwyd ymdrech Aaron Collins ar y llinell.