Adran Dau: Casnewydd 0-1 Rochdale

  • Cyhoeddwyd
Will Evans (Casnewydd) yn herio Femi Seriki (Rochdale)Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Colli gartref yn erbyn y tîm a ddechreuodd y prynhawn ar waelod tabl Adran Dau oedd hanes Casnewydd yn Rodney Parade ddydd Sadwrn.

Roedd peniad Jimmy Ball, bum munud wedi'r gic gyntaf, yn ddigon i sicrhau ail fuddugoliaeth y tymor yn y gynghrair i Rochdale.

Ofer oedd ymdrechion yr Alltudion i unioni'r sgôr, er cyfleoedd i Mickey Demitrou a Lewis Collins.

Serch y golled mae Casnewydd yn parhau yn 18fed safle'r tabl gydag 11 o bwyntiau.