Dathlu afalau Cymreig
- Cyhoeddwyd
Yn ôl garddwyr mae wedi bod yn gynhaeaf da i afalau eleni - digon i gadw perchnogion coed afalau mewn crymbls a thartenni am sbel go lew; ond wyddech chi fod yna tua 100 o wahanol fathau o afalau sy'n gynhenid i Gymru?
Mae llawer o'n coed afalau cynhenid wedi eu diogelu yng Ngardd Fotaneg Cymru yn Llanarthne sy'n dathlu'r ffrwyth hydrefol gyda gŵyl arbennig ddydd Sadwrn, 15 Hydref.
Mae FestAfal ('dachi'n gael o?) yn ddathliad o'u perllan Gymreig a enillodd statws Casgliad Cenedlaethol yn 2017.
"Mae'r casgliad hwn yn storfa hirdymor er cadwraeth y dreftadaeth naturiol hon," meddai Alex Summers, curadur yr Ardd.
"Mae hefyd yn adnodd ymchwil ar gyfer bridio afalau, yn ogystal â bod yn dreftadaeth ddiwylliannol Gymreig bwysig mewn perthynas â'r enwau â'r technegau tyfu".
Darganfod mathau newydd
Mae tua 7,500 math gwahanol o afal yn cael eu tyfu dros y byd i gyd ac mae'r diddordeb mewn rhywogaethau cynhenid Cymru wedi tyfu yn y blynyddoedd diweddar.
Yn 2018 fe ddaeth 73 o fathau heb eu cofnodi o afalau a gellyg y credir eu bod yn unigryw i Gymru i'r fei drwy waith ymchwil , dolen allanolar y cyd gan Gymdeithas Perai (diod gellyg) a Seidr Cymru a Phrifysgol De Cymru.
Roedd y prosiect wedi ei sefydlu yn 2016 i edrych ar dreftadaeth perllannau a gwneud seidr yng Nghymru ac erbyn diwedd eu hymchwil roedd y rhywogaethau Cymreig y gwydden nhw amdanyn nhw wedi tyfu o 30 i dros 100.
Ymysg yr afalau a ganfuwyd o'r newydd oedd Afal Tudwal oedd yn tyfu mewn hen berllan ger ficerdy yn Llanstadwel, Sir Benfro, a'r Anglesey Sweet Jane a ganfuwyd ar Ynys Môn a'i enwi ar ôl chwaer y perchennog.
Dywedodd mam y perchennog, oedd yn ei 80au erbyn hynny, wrth ymchwilwyr ei bod yn cofio'r goeden ers ei phlentyndod a'i bod yn debygol o fod dros 100 oed.
Un o'r mathau enwocaf efallai sydd wedi dod i'r fei fel rhywogaeth unigryw yw Afal Enlli.
Daeth adarydd ar draws yr afal yn tyfu ar goeden gam oedd yn dringo ar wal un o dai'r ynys yn 1998.
Cafodd ei chofrestru fel yr unig un o'i math yn y byd nes i'r arbenigwr ffrwythau cynhenid, Ian Sturrock, sylweddoli bod angen ei diogelu a chymeryd y toriadau cyntaf ohoni ar gyfer ei feithrinfa ger Bangor er mwyn cael coed newydd.
"Mae Afal Enlli rŵan yn ddiogel," meddai wrth BBC Cymru Fyw yn 2017. "Unwaith i'r arbenigwyr gyhoeddi ei fod yn unigryw, wnes i ddechrau cynhyrchu coed o'r toriadau o'r ynys, ac mae'r math arbennig yma wedi tyfu mewn poblogrwydd."
Fe wnaeth Ian hefyd yr un peth gydag Eirinen Dinbych gan ddiogelu'r ffrwyth unigryw.
Perllan dreftadaeth
Dyna'r gobaith gyda'r berllan a blannwyd yng nghampws Prifysgol Aberystwyth yng Ngogerddan fel canlyniad i brosiect Prifysgol De Cymru a Chymdeithas Perai a Seidr Cymru.
Cafodd dros 60 o fathau hanesyddol o afalau a gellyg Cymreig eu plannu yno yn 2018 gyda garddwyr profiadol yn cael eu hannog i gymryd toriadau i sefydlu eu perllannau treftadaeth eu hunain.
Yn ôl Ian Sturrock mae degau o fathau cynhenid o afalau a ffrwythau eraill oedd yn arfer ffynnu yng Nghymru wedi eu colli wrth i fathau o'r tu allan lenwi'r siopau. Mae'n credu fod hyd at 200 ers talwm.
Ond yn Llanarthne ddydd Sadwrn mi fydd 'na afalau Cymreig i'w blasu a seidr i'w yfed a chyfle i brynu eich coeden afalau gynhenid Gymreig eich hun.
Ac os oes ganddoch chi hen goeden afalau yng ngwaelod yr ardd nad ydych chi'n gwybod dim amdani, pwy a ŵyr nad ydi hi'n fath prin yn aros i gael ei darganfod?
Mae gwahoddiad i ddod â hi i'r Ardd i gael ei hadnabod ddydd Sadwrn.
Y cyngor ydy i sicrhau bod afalau o goed gwahanol yn cael eu cadw ar wahân a dod â thri afal o bob math i sicrhau adnabyddiaeth gywir; mae angen iddyn nhw gynnwys y coesyn a'r llygad cyfan (y pen gyferbyn â'r coesyn).
Meddai curadur yr Ardd Fotaneg, Alex Summers: "Mae FestAfal yn gyfle i ddathlu ein Perllan Gymreig a'i chasgliad o afalau. Bydd yr ŵyl yn ddathliad mawr o'r afal, yr amrywiol ffyrdd y gellir ei ddefnyddio, y cynhyrchion sy'n deillio ohono a'i chysylltiadau ehangach â diwylliant Cymru. Bydd yna gyfle i flasu amrywiaeth o fathau o afalau Cymreig ac i brofi rhywbeth heblaw Braeburn neu Pink Lady - rhywbeth hynod o Gymreig".
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017