'Angen stopio gwrthwynebu golygu cnydau'n enynnol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ffermwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i stopio gwrthwynebu cnydau sydd wedi eu golygu'n enynnol er mwyn taclo'r argyfwng bwyd sy'n datblygu.
Fe allai deddfwriaeth bosib yn Lloegr ganiatáu addasu geneteg er mwyn tyfu planhigion a magu anifeiliaid i gynhyrchu bwyd.
Does dim cynlluniau tebyg yng Nghymru, ond yn ôl un ffermwr yn Sir Benfro fe allai'r dechnoleg arwain at gnydau sy'n dygymod â thywydd eithafol.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn parhau ar y trywydd o bwyllo mewn cysylltiad â'r posibilrwydd.
'Gwella safon cynnyrch'
Ar hyn o bryd mae'r broses olygu'n enynnol yn dod dan yr un rheolau â chyfyngiadau ag organeddau wedi eu haddasu'n enynnol (GMO).
Ond mae'n fwriad gan Lywodraeth y DU i newid hynny gyda'r Ddeddf Technoleg Geneteg (Bridio Manwl).
Mae yna wahaniaeth rhwng addasu'n enynnol a golygu genynnol - proses na wnelo ddim ag ychwanegu DNA, ond yn ôl gwrthwynebwyr y cwbl ydyw ond GM gyda "gwell PR".
Ar Fferm Dudwell ym mryniau Camros yn Sir Benfro, mae Tom Rees yn tyfu gwenith a thatws.
Yn sgil y tywydd poeth diweddar, mae'n credu y gall technoleg fel golygu genynnol helpu cynhyrchu cnydau sy'n gallu dygymod â newidiadau eithafol yn y tywydd, o sychder i law trwm.
Mae hefyd yn gobeithio y gallai golygu genynnol gynhyrchu cnydau sy'n gallu gwrthsefyll heintiau.
"Rydym ar drothwy argyfwng bwyd," meddai Mr Rees, "ac mae angen edrych ar unrhyw beth allai gwella safon yr hyn rydym yn ei gynhyrchu.
"O ran cynyddu cnydau a gwella ansawdd, mae unrhyw dechnoleg a allai rhoi mantais i fy ngwenith dros unrhyw haint yn gorfod bod yn beth da.
"Lleia' byd o wrtaith i ni chwistrellu, gorau oll."
Beth yw golygu genynnol?
Mae golygu genynnol yn adlewyrchu'r un newidiadau sy'n digwydd ohonyn nhw'u hunain mewn planhigion neu drwy fridio planhigion, medd yr Athro Huw Jones o ganolfan IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) Prifysgol Aberystwyth.
Ond mae'r broses, meddai, yn sicrhau'r newidiadau hynny mewn "ffordd fanylach, wedi ei dargedu'n well ac mewn cyfnod byrrach".
Dan y broses GM, mae DNA'n cael ei symud o un organeb i un arall.
"Mae genom planhigyn fel llawlyfr cyfarwyddiadau yn y gell - mae'n dweud wrth y gell beth i'w wneud.
"Mae golygu genynnol fel cymryd pensel finiog neis a gwneud newidiadau manwl i ddilyniant ACGT y genom," meddai, gan wneud "newidiadau yn y genom lletyol yn unig heb ychwanegu unrhyw DNA".
Dydy'r dechnoleg ddim yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu bwyd ar hyn o bryd oherwydd rheolau'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'r DU'n rhydd bellach i dorri cwys ei hun.
Yn ôl ymgynghorydd polisi undeb NFU Cymru, Huw Thomas mae'n rhaid i Gymru "fod yn agored" i'r dechnoleg, gan ddadlau y gallai helpu ffermwyr Cymru aros yn gystadleuol.
"Mae digwyddiadau ar draws y byd fel y rhyfel yn Wcráin wedi rhoi pwysau mawr ar gyflenwadau bwyd ac wrth gwrs gall hynny effeithio ar ein gallu i brynu bwyd.
"Mae'r dechnoleg yma ar y gorwel ac mae'n gyfle i ni wneud rhywbeth sy'n wahanol i Ewrop."
Liz O'Neill ydy cyfarwyddwr y grŵp GM Freeze, sy'n ymgyrchu yn erbyn addasu genynnol, ac mae hi'n mynnu mai "GM yw golygu genynnol ond gyda gwell PR".
"Mae'n newid proffil geneteg organeb yn y labordy mewn ffyrdd allai fynd o chwith ac felly mae angen ei wirio."
Mae yna ffermwyr sy'n gwrthwynebu golygu genynnol hefyd.
Dywedodd Gerald Miles, ffermwr organig yn Sir Benfro: "Pam rydym yn newid y DNA mewn planhigion? Mae planhigion wedi esblygu o fewn natur mewn biliynau o flynyddoedd - maen nhw wedi goroesi a newid yn naturiol.
"Dylen ni lynu wrth egwyddor ragofalus. Os rydym yn cyflymu pethau o fewn natur, fe allwn ni gyflymu pethau hyd nes trychineb posib.
"Rhaid cadw rheolau llym oherwydd unwaith rydych yn ei lacio, mae'n anodd troi'n ôl."
Trywydd 'bwyllog' yng Nghymru
Dywed Llywodraeth y DU y bydd y ddeddfwriaeth yn "cael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen yr etifeddwyd o'r UE i greu trefn reoli symlach a mwy cymesur".
Ychwanegodd: "Mae technolegau bridio manwl, fel golygu genynnol, â photensial mawr, a gallai ein helpu i leihau ein defnydd o blaladdwyr, lleihau costau ffermwyr, cynhyrchu mwy o fwyd ac addasu i effeithiau newid hinsawdd."
Mae Llywodraeth Cymru'n cadw at drywydd mwy pwyllog.
Dywedodd llefarydd y dylai'r "argyfyngau newid hinsawdd a natur hoelio ein sylw ar ymchwil i lwybrau biolegol neu agro-ecolegol amgen".
Ychwanegodd: "Byddwn yn parhau i ddilyn trywydd pwyllog, gan seilio penderfyniadau ar wyddoniaeth sicr."
Mae Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn cydnabod "y gallai'r technolegau geneteg newydd fod â rhan i'w chwarae" yn y dyfodol, ac yn gobeithio cael "trafodaeth lawn ac agored rhwng pedair llywodraeth y DU".
Ond mae'r gweinidog yn Swyddfa Cymru, David TC Davies yn dadlau y byddai ffermwyr Cymru dan anfantais pe bai'r dechnoleg ar gael yn Lloegr, ond ddim iddyn nhw.
"Beth sy'n fy mhoeni 'chydig yw cofio o fy nyddiau yng Nghynulliad Cymru, wrth drafod GM, bod yna farn ideolegol gref bryd hynny.
"Dwi'n ofni bod rhywfaint o'r antipathy yn erbyn gene editing ar sail hynny, nid ar seiliau gwyddonol cadarn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021