Adran Dau: Crawley 2-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe barhaodd rhediad gwael Casnewydd brynhawn Sadwrn wrth iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Crawley.

Roedd y ddau dîm heb reolwyr parhaol, wedi i Gasnewydd ddiswyddo James Rowberry yn ystod yr wythnos, a Kevin Betsy wedi gadael y gwrthwynebwyr.

Aeth Crawley ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda James Tilley yn rhwydo yn dilyn camgymeriad gan y golwr Joe Day.

Dyblwyd mantais y tîm cartref wedi 57 munud, wrth i beniad Ashley Nadesan o gic rydd Jack Powell ganfod cefn y rhwyd.

Roedd gobaith i Gasnewydd wrth i Nathan Moriah-Welsh sgorio gôl wych gyda 10 munud yn weddill, ond roedd Crawley eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r triphwynt.

Mae'r canlyniad yn gweld yr Alltudion yn disgyn un safle i 19eg yn Adran Dau, dim ond dau bwynt oddi ar waelod y tabl.