Adran Dau: Casnewydd 1-0 Colchester United
- Cyhoeddwyd
![Graham Coughlan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/DC5A/production/_127301465_cdf_221022_newport_v_colchester04.jpg)
Mae Graham Coughlan wedi rheoli Bristol Rovers a Mansfield cyn cael ei apwyntio gan yr Alltudion
Roedd hi'n gychwyn perffaith i gyfnod Graham Coughlin gyda'r yr Alltudion wrth i'w dîm newydd sicrhau buddugoliaeth werthfawr.
Cyn-chwaraewr y Bala, Will Evans, sgoriodd unig gôl y gêm wrth iddo benio croesiad Adam Lewis wedi saith munud.
Daeth cyfle gorau Colchester i Noah Chilvers, ond roedd arbediad Joe Day yn ddigon wrth i Gasnewydd ddal eu gafael.
Gyda hon ond yn ail fuddugoliaeth gartref Casnewydd o'r tymor, mae'r Alltudion nawr yn codi i'r 18fed safle.