Adran Dau: Mansfield 0-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Will Evans a James PerchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Evans yn cystadlu am y bêl gyda James Perch

Parhau mae dechrau da Graham Coughlan wrth lyw'r Alltudion gyda'i dîm yn sicrhau pwynt oddi cartref.

Er bod Mansfield yn gwthio am ddyrchafiad, Casnewydd ddechreuodd orau wrth i Christy Pym orfod arbed ergyd cyn-chwaraewr y Bala, Will Evans.

Roedd y tîm cartref lawr i ddeg dyn wedi i James Perch lorio ymosodwr Casnewydd, Omar Bogle, gyda hanner awr ar ôl i'w chwarae.

Ond prin oedd y cyfleon, gyda Chasnewydd yn methu â manteisio.

Bydd sicrhau ail lechen lan yn olynol yn destun balchder i'r rheolwr newydd, serch hynny, wrth i'r clwb anelu at gadw eu lle yn y Gynghrair Bêl-droed.