Cwpan yr EFL: Caerlŷr 3-0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Colled parchus oedd hanes Casnewydd wrth iddynt wynebu un o fawrion Uwch Gynghrair Lloegr yn y gwpan.
Wrth wynebu tîm sawl haen yn uwch yn y pyramid, roedd hi wastad am fod yn dalcen caled i garfan Graham Coughlan wrth wynebu cyn-bencampwyr Lloegr.
Gyda Chaerlŷr yn gwneud sawl newid i'w tîm, ond James Justin, Wout Faes, Boubakary Soumare a Harvey Barnes lwyddodd i gadw eu lle yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Everton brynhawn Sul.
Ond roedd na dal ddigon o safon yn nhîm Brendan Rodgers, gyda Jonny Evans a Jamie Vardy ymysg y wynebau mwyaf cyfarwydd.
Fu bron i'r hanner cyntaf orffen yn ddi-sgôr, ond daeth y gôl roedd Caerlyr yn chwilio amdani wedi 44 munud diolch i ergyd gelfydd James Justin o 20 llath.
Wrth i Gasnewydd ddechrau blino daeth ail Caerlyr wedi 70 munud diolch i Jamie Vardy, cyn iddo sgorio'i ail o'r gêm a thrydydd y tîm cartref gydag wyth munud yn weddill.