Adran Dau: Northampton 1-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Omar BogleFfynhonnell y llun, Rex Features

Ildiodd Casnewydd ym munudau olaf y gêm wrth iddyn nhw fethu'r cyfle i ddychwelyd o Northampton gyda thri phwynt yn Adran Dau.

Cafodd Casnewydd y dechrau perffaith i'r gêm wrth i dafliad hir gan Mickey Demetriou ar ôl dim ond dau funud ganfod ei ffordd at Omar Bogle yn y cwrt cosbi, a'r ymosodwr yn procio'r bêl i gefn y rhwyd.

Daeth cyfleoedd pellach i ddyblu'r fantais hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf, gyda Demetriou'n dod yn agos ag ergyd acrobataidd, a Lee Burge yn arbed ergydion gan Bogle a Nathan Moriah-Welsh.

Ychydig iawn gafodd golwr Casnewydd, Joe Day i'w wneud yn y 45 munud cyntaf, ond bu'n rhaid iddo fod yn wyliadwrus i arbed ergyd Kieron Bowie ar ddiwedd yr hanner.

Daeth Northampton â thri eilydd ymlaen ar yr egwyl i geisio newid y gêm, ac fe ddechreuon nhw roi mwy o bwysau ar yr ymwelwyr yn yr ail hanner gydag ambell hanner cyfle.

Ac fe ddaeth y gôl yn yr amser ychwanegol am anafiadau ar ddiwedd y gêm, wrth i Akin Odimayo ganfod Sam Hoskins yn y cwrt cosbi i rwydo.

Er iddyn nhw ildio'r gôl hwyr, mae Casnewydd yn parhau heb golli mewn tair gêm ers penodi Graham Coughlan fel eu rheolwr newydd.