Cwpan FA Lloegr: Pnawn cymysg i glybiau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan FA

Mae Casnewydd wedi sicrhau eu lle yn ail rownd Cwpan FA Lloegr ond mae Merthyr allan o'r gystadleuaeth eleni.

Fe aeth Merthyr ar ei hol hi yn gynnar yn erbyn Buxton drwy ildio cic o'r smotyn.

Rhwyddodd Diego De Girolamo i roi'r tîm cartref ar y blaen. Er mai Merthyr gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant fe ychwanegodd Jason Gilchrist ail i'r tîm o sir Derby ddwy funud o'r diwedd.

Stori wahanol oedd hi ar Rodney Parade gyda'r tîm cartref yn cael buddugoliaeth ddigon cyfforddus yn erbyn Colchester. Mi sgoriodd Kieran O'Hara yn ei rwyd ei hun i roi'r Alltudion ar eu ffordd ar ôl 28 munud.

Fe wnaeth Aaron Lewis ychwanegu'r ail chwarter awr o'r diwedd.

Fe fydd Wrecsam yn chwarae eu gêm nhw yn y rownd gyntaf gartref yn erbyn Oldham Athletic brynhawn Sul.