Adran Dau: Casnewydd 2-0 Gillingham

  • Cyhoeddwyd
Priestley Farquharson yn disgleirio i'r Alltudion ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Priestley Farquharson yn disgleirio i'r Alltudion ddydd Sadwrn

Dau dîm yn hanner isaf yr ail adran oedd yn brwydro yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn ond roedd yr Alltudion yn drech na Gillingham.

Roedd yr hanner cyntaf yn lled gyfartal tan i Priestley Farquharson roi'r Alltudion ar y blaen gyda pheniad i gornel chwith y rhwyd ddwy funud cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Wedi deg munud o'r ail hanner fe sgoriodd Casnewydd eto gydag ergyd Farquharson yn cael ei throi i'w rwyd ei hun gan Elkan Baggott.

Prin oedd cyfleoedd Gillingham wedi hynny a'r Alltudion felly oedd yn dathlu.

Mae Casnewydd bellach yn ddeunawfed yn y gynghrair.