Galw am dystysgrif i gydnabod colled beichiogrwydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna alwadau am gyflwyno tystysgrifau swyddogol fydd yn caniatáu i golledion beichiogrwydd cyn 24 wythnos gael eu cydnabod yn ffurfiol yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd yn Lloegr y bydd menywod sy'n colli babi cyn 24 wythnos yn gallu derbyn tystysgrif swyddogol yn cofnodi eu colled.
Mae teulu sydd wedi dioddef o enedigaeth farw yn gallu derbyn tystysgrif marwolaeth, os y digwyddodd hynny ar ôl chwe mis.
Ond does dim modd cofrestru babi yn swyddogol os yw wedi marw yn y groth cyn 24 wythnos.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod pob teulu sy'n dioddef colled beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yn cael eu "cefnogi gan fydwragedd profiadol ac elusennau" fel Sands.
Maen nhw hefyd yn cael "cynnig blychau atgofion" sy'n cynnwys tystysgrif.
'Profiad afiach'
Fe wnaeth Elan Arfor Connor o Ynys Môn golli ei babi ym mis Awst y llynedd - yn 22 wythnos.
Cafodd ei mab, Elis, ei eni yn fyw - ond bu farw funudau wedyn.
"Es i mewn i early stages of labour ar y dydd Mercher. Erbyn dydd Iau o ni'n gallu teimlo doedd rhywbeth ddim yn iawn. Es i mewn i'r ysbyty a doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"Fe wnaethon nhw ddweud wrtha' i yn hwyrach ar ôl cael sgan fy mod i'n 6.5 cm, felly fe ddeudon nhw y buaswn yn cael fy mab i y noson yna yn 22 wythnos.
"Roedd o y profiad mwyaf afiach alla' i fedru egluro. Gorfod cael fy mab i ac yna gwylio fy mab i yn marw wedyn - doedd dim byd o ni'n gallu ei wneud.
"Mae lot o triggers dwi'n cael. Ar ôl mynd trwy rhywbeth fel 'na, mae lot o bethau bach yn gallu setio'r emosiwn yna. Mae rhai diwrnodau yn afiach, dwi'n manajo ond oedd o'n brofiad afiach."
Dywed Elan bod cael tystysgrif swyddogol i gydnabod bywyd Elis yn bwysig iddi.
Fodd bynnag, cafodd wybod nad oedd ganddi hawl i dystysgrif swyddogol oherwydd iddi golli Elis cyn 24 wythnos.
"Ar ôl i bopeth ddigwydd wnaethon nhw egluro byddai ddim yn cael dim byd fel 'na.
"Ti'n gallu cael fel comforting box ac mae tystysgrif yn fanno, sef un mae'r ysbyty yn ysgrifennu. A wnes i adael yn meddwl ai dyna'i gyd dwi'n ei gael?"
'O'n i'n fodlon mynd yr holl ffordd'
Ar ôl cael cyngor gan famau ac elusennau, fe wnaeth Elan ddarganfod y dylai hi allu derbyn tystysgrif oherwydd bod Elis yn fyw pan gafodd ei eni.
Ond roedd gweithwyr iechyd yn anghytuno â hi, a dywedwyd wrth Elan efallai y bydd yn rhaid iddi fynd i'r llys i frwydro am dystysgrif.
"Gofynnon nhw i fi os dwi'n siŵr fod hyn yn rhywbeth dwi eisiau ei wneud.
"A 'nes i ddweud wel doeddwn i ddim yn gallu cadw fy mab i'n fyw, ond fedrai wneud ryw fath o impact gyda'i enw. Mae o'n haeddu'r dystysgrif yma.
"Wnaethon nhw egluro os oedd y doctoriaid ddim yn cytuno, yna fyddai rhaid i fi fynd i'r llys. Ac o'n i'n fodlon mynd yr holl ffordd."
Ar ôl iddi frwydro am ddeufis, derbyniodd Elan dystysgrif genedigaeth a marwolaeth swyddogol.
Dywed Elan, petai tystysgrifau colledion cyn 24 wythnos ar gael yng Nghymru, fyddai hi ddim wedi gorfod brwydro.
"Roedd o'n afiach gorfod brwydro. Ar ôl i fi eni Elis o ni'n sal hefyd gyda blood clots, ac roedd rhaid i mi fynd yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty. Roeddwn i'n teimlo fel petawn i ar ben fy hun a doedd neb yn gwrando."
Roedd derbyn tystysgrif yn rhywbeth pwysig iawn i Elan a'i gŵr.
"I fi yn bersonol, oherwydd doeddwn i methu gwneud dim byd i safio fo, roeddwn i'n teimlo fel o'n i eisiau fo i fodoli yn swyddogol. Mae o yn llyfrau am byth nawr. Mae'r dystysgrif yn helpu i ddelio â beth sydd wedi digwydd."
'Eisiau rhoi'r dewis i rieni'
Roedd Zoe Clark-Coates, prif swyddog gweithredol SayingGoodbye.Org, ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn Lloegr ac mae'n galw am gyflwyno'r tystysgrifau yng Nghymru.
"Dechreuodd ein hymgyrch yn 2015, yn bennaf oherwydd roedd y bobl roeddwn ni'n eu cefnogi yn dweud wrthym fod angen rhywbeth swyddogol arnynt a oedd yn cydnabod yr hyn yr oeddent wedi mynd drwyddo pan gollon nhw fabi cyn 24 wythnos.
"Roedd yna lawer o rwystrau ar hyd y ffordd. Un peth nad oeddem yn ei sylweddoli yw pe bai'r dystysgrif yn dod yn fandad cyfreithiol yw na fyddech yn gallu ei dyddio yn ôl i'r gorffennol, ac roedd hynny'n bwysig i ni.
"Roedden ni eisiau rhoi'r dewis i rieni allu mynd yn ôl a chael tystysgrif os oedden nhw'n dymuno."
Dywed Zoe, sydd wedi dioddef colled beichiogrwydd ei hun, ei bod yn hollbwysig rhoi'r opsiwn i rieni gael tystysgrif.
"Mae pobl wedi dweud eu bod nhw eisiau tystysgrif swyddogol er mwyn iddyn nhw allu trosglwyddo honno i lawr drwy'r cenedlaethau.
"Weithiau dim ond ar nodiadau meddygol y cofnodir y golled ac felly pan fydd y person yna yn marw mae'r bywyd hwnnw'n diflannu.
"Roedd sawl un wedi dweud wrthon ni eu bod nhw eisiau rhywbeth y gallan nhw ei gadw i brofi bod y babi yn bodoli."
Yn ôl Jessica Evans, o elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, mae'r sefyllfa yn "loteri cod post" i fenywod yma.
"Mae'n reit bwysig bod y tystysgrifau ar gael yng Nghymru.
"Mae 'na wahaniaethau sylweddol o ran sut mae colled babi yn cael ei drin yn Lloegr i gymharu â Chymru… gydag un wlad yn cofnodi'n swyddogol a'r llall ddim.
"Dwi'n meddwl bod tystysgrifau yn cyfreithloni galar ac yn helpu'r broses… yn aml, dyw pobl ddim yn gallu rhannu'r profiad ac mae'r tystysgrifau yma fel opsiwn - yn help i nodi'r golled ac yn symbol o beth mae nifer yn dioddef."
'Pob teulu yn cael eu cefnogi'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae camesgor ar unrhyw gyfnod o feichiogrwydd yn achosi trallod.
"Mae pob teulu sy'n dioddef o golli beichiogrwydd mewn unedau mamolaeth yn cael eu cefnogi gan fydwragedd profedigaeth, ar y cyd â Sands, ac yn cael cynnig blychau atgofion sy'n cynnwys tystysgrif geni.
"Mae ein Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod yn parhau i gefnogi ystod o faterion iechyd menywod, cyn i gynllun iechyd deng mlynedd GIG Cymru ar gyfer iechyd menywod gael ei gyhoeddi."
Ychwanegodd Llywodraeth y DU fod "gwaith ar hyn yn digwydd a byddwn yn cyhoeddi mwy maes o law".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2017